Rhagor o lacio ar y cyfyngiadau, wrth i lywodraeth leol groesawu eglurder ar gyfer busnesau manwerthu a thwristiaeth

Dydd Sadwrn, 20 Mehefin 2020

Mae cynghorau yng Nghymru wedi croesawu eglurder i siopau a busnesau twristiaeth yng nghyhoeddiadau diweddaraf y Prif Weinidog ar newidiadau i’r cyfyngiadau.

Bu Arweinwyr mewn trafodaethau gyda chyrff twristiaeth yn yr wythnosau diwethaf, ac wedi cyfarfod â Gweinidogion yr wythnos hon i drafod sut gallwn ni ailagor yr economi ymwelwyr yn ddiogel a mor fuan â phosib.

Bydd siopau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu galluogi i ailagor o ddydd Llun, os gallant gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â'r ddyletswydd yng nghyfraith Cymru i gadw pellter cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros yr Economi:

“Diolch i ymdrechion pob un ohonom ni, rydyn ni wedi llwyddo i reoli lledaeniad y coronafeirws ac i gyflawni’r cynnydd yma fydd yn galluogi busnesau i ailagor, tra’n cydymffurfio â chyfraith pellhau cymdeithasol i amddiffyn cwsmeriaid a staff fel eu gilydd.

“Ond ni ddylem ni golli golwg o’r ffaith nad yw’r feirws heb ddiflannu ac mae’n dal i fod yn fygythiad gwirioneddol i bawb. Mae’n hollbwysig ein bod ni i gyd yn glynu at reolau Llywodraeth Cymru er mwyn parhau i reoli lledaeniad y feirws marwol hwn.”

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cael gwared o’r rheol ynghylch aros yn lleol ar 6 Gorffennaf, os bydd amodau yn caniatáu, fydd yn galluogi pobl i deithio i atyniadau twristaidd ar draws Cymru. Mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i fusnesau i gychwyn paratoadau dros y dair wythnos nesaf i ailagor, os y bydd yr haint yn parhau i fod dan reolaeth.

Bydd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal â'r sector lletygarwch ynghylch y posibilrwydd o ailagor tafarndai, caffis a bwytai yn raddol, gan gynnal rheolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas (Caerdydd), Llefarydd CLlLC dros Dwristiaeth a Digwyddiadau o Bwys:

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog, sy’n dangos cefnogaeth i’r sector dwristiaeth sydd wedi cael ei daro’n galed, tra’n cynnal ffocws cryf ar ddiogelwch. Wrth i ni ddysgu i fyw gyda’r feirws, ni allwn ni fforddio i golli busnesau ac atyniadau sydd wedi helpu i sefydlu Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o safon ryngwladol, a sydd yn cyfrannu cyn gymaint i economïau lleol.

“Bydd yr wythnosau nesaf yn bwysig i fusnesau a chymunedau lleol weithio yn adeiladol a’u gilydd i sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Gwynedd), Cyd Gadeirydd Fforwm Wledig CLlLC:

“Twristiaeth yw un o’r sectorau pwysicaf yn ein cymunedau gwledig, a rydyn ni’n gwybod bod busnesau tymhorol sy’n dibynnu ar ymwelwyr wedi cael eu heffeithio’n ddwys gan yr ansicrwydd o ganlyniad i’r argyfwng. Mae’r camau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn rhoi rhywfaint o eglurder i’r busnesau hynny ynglyn â’r ffordd ymlaen yn yr wythnosau nesaf. Byddwn ni angen gweithio gyda’n gilydd i sicrhau y gall ein cymunedau ni, yn raddol ac yn ofalus iawn, ddechrau groesawu ymwelwyr tra’n glynu’n dynn at ganllawiau a rheolau Llywodraeth Cymru.”

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION: Dilynwch y linc am fwy o fanylion am gyhoeddiad y Prif Weinidog ar Ddydd Gwener 19 Mehefin: https://llyw.cymru/prif-weinidog-cymru-yn-cyhoeddi-camau-pellach-i-lacior-cyfyngiadau

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30