Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi adnewyddu ei alwad am fwy o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol i helpu’r gwasanaeth iechyd wrth i’r genedl ddathlu 75 mlynedd ers dyfodiad y GIG.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David OBE (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Heddiw a phob dydd, rydyn ni’n cydnabod y GIG a’r gweithlu am ei rôl allweddol yn arbed bywydau dirifedi pob diwrnod dros y 75 mlynedd diwethaf. I amddiffyn y gwasanaeth iechyd am flynyddoedd i ddod, rhaid i ni gynyddu buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol i gydnabod eu pwysigrwydd.
“Y gwasanaethau yma sy’n darparu cefnogaeth hollbwysig yn gorfforol, emosiynol ac yn gymdeithasol, fel bod pobl yn gallu byw bywydau iach yn eu cymunedau eu hunain ac i ffwrdd o ystafelloedd aros mewn ysbytai neu feddygfeydd. Trwy leihau’r gal war ysbytai trwy waith ataliol gan gynghorau mewn cymunedau, gallwn fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi pwyseddau yn y system.
“Mae llywodraeth leol yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r sector iechyd ehangach i hybu gofal cymunedol ac i leddfu’r pwysau ar y system gyfan. Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog am ymrwymo hyd at £30 miliwn i helpu i gryfhau capasiti. Ond rhaid i ni feddwl yn wahanol am iechyd a llesiant ac i anelu at atal pobol rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Mae atal yn well na gwella a, thrwy weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i sicrhau fod y GIG ac ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau i fod yno i’r rhai sydd eu hangen am y 75 mlynedd nesaf a thu hwnt i hynny.”
DIWEDD -