Gwobrau cyntaf Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn Abertawe ar 30 tachwedd 2023

Dydd Iau, 30 Tachwedd 2023

Heddiw, dydd Iau 30 Tachwedd 2023, 14:00- 17:00, bydd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cynnal y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel cyntaf yn y Village Hotel yn Abertawe i ddathlu gwaith prosiectau, partneriaethau a phobl sydd wrthi’n gwneud cymunedau’n fwy diogel ar hyd a lled Cymru.

Bydd siaradwyr o’r partneriaethau’n cynnwys Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub, y Cynghorau a’r Heddlu yng Nghymru, a’r eicon o Gymru, Lynn Bowles fydd yn arwain.

 

Meddai Lynn Bowles, darlledwr a chyflwynydd radio:

“Rwyf yn falch iawn o arwain Gwobrau cyntaf Cymunedau Mwy Diogel heddiw, bydd yn gyfle gwych i gydnabod unigolion y mae eu hymroddiad yn cael effaith mor bositif ar gymunedau ar draws Cymru”.

 

Mae’r Seremoni Wobrwyo yn gyfle i ddathlu ac arddangos y gwaith gwych sydd ar y gweill ar hyd a lled Cymru i atal, lleihau a gwneud cymunedau’n fwy diogel mewn meysydd fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais yn Erbyn Merched a Genethod a Chamfanteisio.

Caiff y Rhwydwaith ei oruchwylio gan Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sydd â’r nod o sicrhau y darperir arweinyddiaeth effeithiol ar y cyd i helpu partneriaethau lleol sy’n hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith, ewch i www.cymunedaumwydiogel.cymru a dilynwch @CymMwyDiogel  ar X (yr hen Twitter) i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Meddai’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru a Chyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Rwyf yn hynod falch o gael cefnogi Seremoni gyntaf Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel ar 30 Tachwedd. Fel Cyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, mae’n bwysig dathlu cryfder Partneriaethau Diogelwch Cymunedol sy’n ymateb i anghenion lleol a darparu mentrau sydd wir yn newid bywyd ac sy’n gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

“Rydym yn gwneud hyn yn well yng Nghymru oherwydd ymrwymiad y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Prif Gwnstabliaid ac Awdurdodau Lleol i weithio gydag asiantaethau eraill yn cynnwys y Gwasanaethau Tân a’r Sector Gwirfoddol a gyda chefnogaeth weithredol Llywodraeth Cymru. Dyma gyfle i ddathlu’r gwaith presennol, i ddysgu gan y naill a’r llall a chymryd camau pellach i gadw ein cymunedau’n ddiogel hyd yn oed yn y cyfnodau caled hyn.”

 

Meddai’r Cynghorydd Jane Mudd (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Fel pob gwasanaeth cyhoeddus, mae Llywodraeth Leol yn gorfod ymateb i alwadau’r cyhoedd gyda llai o adnoddau a than amodau sy’n mynd yn fwy a mwy anodd. 

“Ac eto, mae’r balchder wrth ddarparu gwasanaethau'n parhau ac fel Cyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, rwy’n falch iawn o gefnogi’r Gwobrau hyn gan ei fod yn dangos angerdd ac ymroddiad y gweithwyr gwydn ar draws Cymru sy’n gweithio’n ddiflino i wneud bywydau pobl yn fwy diogel.”

 

Meddai Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Mae’r Seremoni Wobrwyo hon yn llwyfan i arddangos yr amrywiaeth o waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru ac mae’n bleser i’r Rhwydwaith allu dod â chydweithwyr ynghyd i ddathlu’r unigolion a’r meddwl arloesol sy’n gwneud i newid ddigwydd.”

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30