Llywodraeth leol Cymru yn canmol myfyrwyr Safon Uwch am eu gwaith caled a'u llwyddiant

Dydd Iau, 15 Awst 2024

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi canmol myfyrwyr ledled Cymru am eu cyflawniadau rhagorol yn arholiadau Safon Uwch eleni. Bydd dros 28,000 o fyfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau heddiw ar gyfer Safon Uwch, Safon UG a Lefel 3.

 

Mae’r canlyniadau ar gyfer Cymru yn dangos bod 97.4% o fyfyrwyr Safon Uwch a 90.2% o fyfyrwyr Safon UG wedi cyflawni gradd A*-E, a’r prif ddewisiadau ar gyfer pynciau oedd Mathemateg, Gwyddorau a Seicoleg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd y CLlLC:

 

“Ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru, rwyf am gymeradwyo’r holl fyfyrwyr am eu canlyniadau Safon Uwch eithriadol. Mae cyflawniadau eleni yn destament i’r gwytnwch a’r penderfyniad y mae pob myfyriwr wedi’i ddangos ar hyd eu taith academaidd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant wrth iddynt gychwyn ar eu camau nesaf, boed hynny’n addysg bellach, yn hyfforddiant, neu’n ymuno â’r gweithlu.

 

“Mae ymroddiad ein hathrawon, staff ysgolion, ac arweinwyr addysgol wedi bod yn allweddol wrth helpu myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial. Mae eu hangerdd a’u cefnogaeth i dwf pob myfyriwr wedi gwneud byd o wahaniaeth ym mywydau’r bobl ifanc hyn. Rydym yn ddiolchgar am eu hymdrechion parhaus i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chalonogol.

 

“Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â’ch opsiynau, rwy’n eich annog i estyn allan at Gyrfa Cymru, eich ysgol, neu goleg am gyngor. Mae yna lawer o lwybrau i lwyddiant, ac mae cymorth ar gael i’ch helpu i lywio’r amser pwysig hwn.”

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30