Heddiw, fe gytunodd y Senedd ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a fydd yn cyflwyno ystod o ddiwygiadau i lywodraeth leol dros yr 18 mis nesaf.
Mae’r Bil yn un o ddim ond dau sydd yn cael eu hystyried gan y Senedd yn ystod yr argyfwng COVID 19, gyda’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig ydi cynghorau o fewn eu cymunedau ac fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus craidd.
Mae cynghorau mewn safle unigryw wrth galon eu cymunedau ac wedi cael eu dibynnu arnynt i ddarparu diwygiadau sylweddol i wasanaethau a chyflwyno cefnogaeth i unigolion, teuluoedd a busnesau yn aml ar fyr rybudd o dan yr amodau mwyaf heriol. Datblygwyd y Bil dros amser maith ac yn rhagflaenu’r argyfwng COVID, ond mae nawr yn cynnwys y profiadau a’r hyn a ddysgwyd o’r ymateb i’r pandemig gan gynnwys mwy o hyblygrwydd o ran cyfarfod o bell, sydd i’w groesawu.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
“Mae cynghorau wedi bod ar rheng flaen yr ymateb i’r argyfwng COVID, ynghyd a phartneriaid yn y GIG. Yn ystod y pandemig, mae cynghorau a’r gweithlu wedi dangos hyblygrwydd, arloesedd, cydnerthedd ac ymatebolrwydd. Felly mae’r Bil yn darparu nifer o ddiwygiadau yn cynnwys pŵer cymhwysedd cyffredinol eang ac yn symleiddio rhai trefniadau llywodraethu a pherfformiad a ddylai ganiatau mwy o hyblygrwydd yn y dyfodol.”
“Un o brif themau’r Bil yw hybu democratiaeth leol ac amrywiaeth, sydd yn flaenoriaeth a rennir gan CLlLC. Mae’r Bil yn cyflwyno pleidleisiau i bobl 16-17 mlwydd oed ac yn darparu hyblygrwydd ehangach a chefnogaeth i gynghorwyr, yn unol a galwad CLlLC, gan gynnwys mwy o drefniadau cyfarfod hyblyg, cefnogaeth teulu absennol ac yn caniatau uwch gynghorwyr i rannu swydd.”
“Mae rhai rhannau o’r Bil wedi achosi cryn drafod ac anghytuno o fewn llywodraeth leol, gan gynnwys pryderon am wneud cyd-bwyllgorau corfforaethol yn orfodol ar gyfer rhai gwasanaethau penodol, gan ystyried llwyddiannau o ran cydweithredu megis y bargeinion tŵf dinesig a rhanbarthol ar draws Cymru. Mae arweinwyr wedi gwerthfawrogi ymagwedd y Gweinidog dros Dai a Lywodraeth Leol tuag at ymgysylltu trwy gydol y pandemig a byddwn yn parhau i drafod yn gadarnhaol â hi i sicrhau bod y trefniadau rhanbarthol newydd yma yn adeiladu ar yr hyn sydd yn gweithio’n barod ac yn caniatau cyn gymaint a phosib o ddisgresiwn lleol a hyblygrwydd.”