Partneriaeth newydd yn addo gwasanaethau cyhoeddus cryfach i Gymru

Dydd Iau, 19 Mehefin 2025

Mae Llywodraeth Cymru a'r 22 gynghorau lleol yng Nghymru wedi llofnodi cytundeb pwysig a fydd yn cryfhau'r berthynas rhwng llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol. 

Mae'r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru yn addo cydweithio ac ymrwymiad a rennir i fynd i'r afael â heriau fel ansicrwydd economaidd a chyllid cyhoeddus.  

Mae'r cytundeb yn creu fframwaith er mwyn i lywodraeth genedlaethol a lleol weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd, gan dorri biwrocratiaeth ddiangen tra'n parchu rolau democrataidd ei gilydd. 

Mae hefyd yn mynd i'r afael â phryderon ymarferol gan gynnwys trefniadau cyllido, gydag ymrwymiadau i ymgysylltu yn gynnar â phrosesau cyllideb a setliadau ariannol aml-flwyddyn lle bo hynny'n bosibl. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:  

"Mae'r cytundeb hwn yn cynrychioli carreg filltir hanfodol yn ein hymrwymiad ar y cyd i roi pobl yn gyntaf.  

"Bydd pobl ledled Cymru yn elwa o wasanaethau cyhoeddus cryfach wrth i Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol lunio cytundeb partneriaeth strategol newydd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chydweithio. 

"Trwy weithio gyda'n gilydd, heb ddyblygu na biwrocratiaeth diangen, gallwn sicrhau canlyniadau gwell i gymunedau ledled Cymru fel rhan o'n Cynllun ar gyfer Newid." 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC: 

"Mae cymunedau ym mhob rhan o Gymru wedi elwa o'r berthynas adeiladol hirsefydlog rhwng cynghorau a Llywodraeth Cymru. Wrth ffurfioli'r bartneriaeth ffrwythlon honno, bydd y cytundeb hwn yn caniatáu inni fanteisio hyd yn oed mwy ar y cyfleoedd a gynigir gan ein cydweithrediad agos." 

Categorïau: Newyddion

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30