Ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws'

Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2020

Bydd ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' cadarnhaodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw.

Dywedodd y Gweinidog yn glir, diolch i ymdrechion staff addysg ledled y wlad, fod ysgolion a cholegau yn fannau diogel, gyda bron i hanner holl ysgolion Cymru heb gael unrhyw achosion o covid ers mis Medi.

Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai’r ffaith fod lleoliadau addysg ar agor gyfrannu at gymysgu ehangach y tu allan i’r ysgol a’r coleg.

Wrth wneud y penderfyniad, roedd y Gweinidog yn teimlo ei bod yn bwysig cael 'cyfarwyddyd clir, cenedlaethol' i dynnu pwysau oddi ar ysgolion a cholegau unigol, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr.

Dywedodd y Gweinidog fod ei phenderfyniad yn dilyn cyngor arbenigol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru sy’n dangos bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn dirywio.

Mae'r data Profi, Olrhain, Diogelu diweddaraf yn dangos bod cyfraddau Covid-19 wedi cynyddu ymhellach ledled Cymru a'u bod bellach wedi pasio 370/100k gydag 17% o brofion yn bositif.

Mae'r gyfradd R yng Nghymru wedi cynyddu i 1.27 gydag amser dyblu o ddim ond 11.7 diwrnod.

Fel y digwyddodd yn ystod y cyfnod atal byr, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion ystyried pa ddarpariaeth fyddai’n briodol i ddysgwyr agored i niwed, a gallai hyn gynnwys dysgu ar y safle.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: "Bob dydd, rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda symptomau’r coronafeirws.

"Mae'r feirws yn rhoi pwysau sylweddol a pharhaus ar ein gwasanaeth iechyd ac mae'n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan i osgoi ei drosglwyddo.

"Yn ei gyngor i mi heddiw, mae'r Prif Swyddog Meddygol yn argymell y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

"Gallaf gadarnhau felly y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr coleg o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen.

"Rydym yn cydnabod, fel y gwnaethom yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod yn anos i blant oedran cynradd ac ysgolion arbennig ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig.

“Dyna pam rydyn ni’n annog ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig i barhau i aros ar agor.

"Ar ôl siarad ag arweinwyr addysg lleol, rwy'n hyderus bod gan ysgolion a cholegau ddarpariaeth ddysgu ar-lein ar waith.

“Bydd hyn hefyd yn bwysig o ran sicrhau bod myfyrwyr gartref yn ystod y cyfnod hwn, gan ddysgu ac aros yn ddiogel.

"Yn bendant, ac mae hyn yn bwysig iawn, dylai plant fod gartref.

"Nid gwyliau Nadolig cynnar yw hwn, gwnewch bopeth o fewn eich gallu i leihau eich cysylltiad ag eraill.”

"Mae'r teulu addysg yng Nghymru wedi tynnu ynghyd gymaint o weithiau eleni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwrs y feirws hwn ac yn y pen draw i achub bywydau, ac rwy'n gwybod y gallwn wneud yr un peth eto.

"Gyda'n gilydd gallwn ddiogelu Cymru."

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir Y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Rydyn ni’n gweld cynnydd pryderus yn niferoedd y cyfradd achosion Covid pob dydd sy’n rhoi mwy a mwy o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd a thimau Profi, Olrhain, Diogelu. Ar gyngor y Prif Swyddog Iechyd ac yn dilyn trafod estynedig gyda’r Gweinidog ac undebau dysgu, bydd ysgolion uwchradd yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun.”

“Mae’r sefyllfa o ran coronafeirws yng Nghymru yn ddifrifol. Allwn ni ddim pwysleisio digon y dylai plant aros gartref a pheidio â chymysgu gyda’u ffrindiau neu eraill yn y gymuned i osgoi’r risg o ledaenu’r haint. Er y bydd ysgolion uwchradd yn cau, bydd y dysgu yn parhau ar-lein.”

“Trwy gydol y flwyddyn heriol hon, mae athrawon, staff ysgol, dysgwyr, a rhieni a gofalwyr wedi ymateb yn eithriadol. Dyw hi heb fod yn hawdd, a rydyn ni’n diolch iddyn nhw i gyd am eu amynedd a’u dyfalbarhad parhaus i gadw ein cymunedau’n saff.”

 

DIWEDD

Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30