Ymchwiliad Covid-19 y DU: CLlLC yn ymateb i adroddiad Modiwl 2

Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2025

Wrth ymateb i gyhoeddi adroddiad Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19 y DU ddoe, dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE: 

“Ar ran llywodraeth leol Cymru, diolchwn unwaith eto i’r Farwnes Hallett a thîm yr Ymchwiliad am eu gwaith. Wrth wraidd yr Ymchwiliad mae’r teuluoedd profedigaeth a’r goroeswyr, ac mae adroddiad ddoe yn rhoi cyfle pwysig i ddysgu o’r penderfyniadau a wnaed yn ystod y pandemig. Rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i bawb a gollodd anwyliaid ac i’r nifer o deuluoedd y cafodd eu bywydau eu heffeithio’n ddwfn. 

“Mae Modiwl 2 yn edrych ar sut y gwnaed penderfyniadau gwleidyddol ar draws y DU a’r cenhedloedd datganoledig, o gyfnodau clo a chyfyngiadau i sut roedd gwybodaeth yn cael ei chyfathrebu i’r cyhoedd. 

“Canfu’r Ymchwiliad nad oedd yr ymgysylltu rhwng llywodraethau cenedlaethol, awdurdodau lleol a phartneriaid bob amser mor gynnar nac mor gyson ag yr oedd ei angen. Adleisiwyd y farn hon gan y CLlLC yn ei dystiolaeth. Rydym yn croesawu’r argymhellion ar gyfer trefniadau cryfach ac ymarferol i gynnwys llywodraeth leol o’r cychwyn cyntaf gan ei fod yn hanfodol ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol. 

“Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r dull gweithredu ar y cyd a gymerwyd o fewn Llywodraeth Cymru, ac rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth o’r perthnasoedd gwaith adeiladol a ddatblygodd yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae gwersi i bob llywodraeth o ran sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu, sut mae penderfyniadau’n cael eu cydlynu a sut mae’r effeithiau ehangach ar gymunedau’n cael eu hystyried. 

“Rydym hefyd yn croesawu’r argymhellion sydd wedi’u hanelu at wella cynllunio a pharodrwydd yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys fforwmau rhynglywodraethol cliriach, defnydd mwy cyson o bwerau argyfwng sifil a gwell cydlynu ag awdurdodau lleol trwy gydol unrhyw ymateb i bandemig yn y dyfodol. 

“Chwaraeodd llywodraeth leol rôl ganolog yn ystod Covid-19, gan gefnogi pobl agored i niwed, cynnal gwasanaethau hanfodol a gweithio ochr yn ochr â phartneriaid mewn amgylchiadau hynod heriol. Rydym hefyd eisiau cydnabod ymroddiad ac ymdrechion eithriadol staff llywodraeth leol ledled Cymru, a aeth y tu hwnt i’r gofyn i gefnogi eu cymunedau drwy gydol y pandemig. Mae’n gadarnhaol bod yr Ymchwiliad wedi adlewyrchu ein tystiolaeth ac wedi cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol mewn unrhyw ymateb yn y dyfodol. 

“Mae’r Ymchwiliad wedi herio prif gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys llywodraeth leol, i fod yn well parod ar gyfer y dyfodol. Byddwn nawr yn cymryd amser i archwilio canfyddiadau ddoe yn llawn ac yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i sicrhau bod yr argymhellion yn arwain at welliannau gwirioneddol mewn parodrwydd a gwytnwch ledled Cymru.” 

“Byddem yn croesawu brys i wneud ymateb ar y cyd yng Nghymru i argymhellion yr Ymchwiliad o Fodiwlau 1 a 2 gyda’i gilydd.” 

Categorïau: Newyddion

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30