Gwireddu'r dyfodol a chyflawni heddiw! Llawlyfr i gynghorwyr ac uwch reolwyr
Mae cynghorau lleol Cymru yn wynebu anawsterau nas gwelwyd erioed a bydd arweiniad cynghorwyr ac uwch swyddogion yn hollbwysig mewn sefyllfa o’r fath. Fe fydd rhaid i’r ymdrech i wella byd dinasyddion trwy wasanaethau cyhoeddus allweddol a hybu twf economaidd barhau ochr yn ochr â’r ymdrech i arbed adnoddau sylweddol.
O ganlyniad, ad-drefnir gwasanaethau cyhoeddus a datblygir ffyrdd newydd o’u cynnig.Yn rhan o’r broses honno, cyfunir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eto fyth, trosglwyddir nifer o wasanaethau i fentrau cymdeithasol a chydfuddiannol a sefydlir mwy a mwy o gyrff ar gyfer masnachu a chodi incwm. Ar ben hynny, mae bwriad i ad-drefnu maes llywodraeth leol.
Dyma becyn ar gyfer proffesiynolion caffael a chomisiynu yn ogystal â swyddogion eraill sy’n gyfrifol am wasanaethau, rhaglenni a phrosiectau. Mae’n ymwneud â’r ffordd orau o ddefnyddio Rheoliadau Cytundebau Cyhoeddus 2015 – rheolau caffael Undeb Ewrop – i gyflawni nodau’r cyngor, cliciwch yma. Cliciwch yma am fersiwn y gallwch argraffu.
Pecyn cymorth ar gyfer ymarferwyr
Mae’r pecyn hwn yn adnodd ar gyfer proffesiynolion caffael a chomisiynu yn ogystal â swyddogion eraill sy’n ymwneud â chynnal gwasanaethau a rhaglenni a rheoli prosiectau. Mae’n esbonio’r ffordd orau o ddefnyddio Rheoliadau Cytundebau Cyhoeddus 2015 (Rheoliadau 2015) – rheolau Undeb Ewrop ynglŷn â chaffael – i gyflawni nodau’r cyngor, cliciwch yma.
- Pam mae angen y pecyn hwn? Cliciwch yma
- Sut rydyn ni’n cydweithio ym maes caffael? Cliciwch yma
- Sut y gallwn ni wella ein ffordd o brynu? Cliciwch yma
- Beth yw’r dewisiadau o ran prosiectau mawr? Cliciwch yma
- Pam y dylen ni ddefnyddio technoleg? Cliciwch yma
- Sut mae gwneud y gorau o fuddion cymunedol? Cliciwch yma
Mae rhagor o wybodaeth gan: Richard Dooner