Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynghorau gyda’r setliad, ond penderfyniadau anodd yn parhau, dywed CLlLC

Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 2022

Mae CLlLC wedi croesawu setliad cyllidebol y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth Cymru ond yn rhybuddio y bydd penderfyniadau anodd yn dal i fod angen eu gwneud o ganlyniad i amgylchiadau economaidd heriol.

Bydd cynghorau yn derbyn cynnydd cyfartalog mewn cyllid o 7.9% gan Lywodraeth Cymru, sydd tua £400m.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Ein gwasanaethau lleol yw conglfeini ein cymunedau, gyda cynifer yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am wrando ar ein hachos dros fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, ysgol, a gwasanaethau allweddol eraill gan gynghorau. Rhagorwyd ar ein disgwyliadau o gyllid o’r arian canlyniadol. Ond llwm yw’r rhagolygon economaidd o hyd sy’n golygu y bydd yn rhaid i gynghorau wneud penderfyniadau anodd i gwrdd a bylchau cyllidebol cynyddol oherwydd biliau ynni, chwyddiant a chostau cyflogau. Ychydig dros hanner y pwyseddau’r flwyddyn ariannol nesaf sy’n cael eu cyfarch gan y setliad hwn. Edrychwn ymlaen i barhau gyda’r ymgysylltu adeiladol gyda Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd i ddarparu i Gymru gyfan.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard (Wrecsam), Arweinydd Grwp Annibynnol CLlLC:

“Croesawaf yr ymrwymiad sydd wedi ei ddangos gan Lywodraeth Cymru heddiw i’n gwasanaethau lleol. Rydyn ni wedi ymgysylltu mewn deialog clós gyda’r Gweinidog i amlinellu’r heriau difrifol sy’n ein wynebu, ac mae hynny wedi cael ei werthfawrogi. Ar adeg pan fo trigolion yn gorfod dewis rhwng bwyta neu cadw’n glyd, rydyn ni eisiau parhau i fod yno i barhau cefnogaeth i’n cymunedau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi (Ynys Môn), Arweinydd Grwp Plaid Cymru CLlLC:

“Pob dydd o’r flwyddyn, gwneir gwaith arbennig gan ein cynghorau i wella bywydau pobol ac i gefnogi ein cymunedau. Ond dyw ddim yn gyfrinach bod gwasanaethau sy’n achubiaeth i gynifer, megis gofal cymdeithasol, gan bwysau dwys dros ben. Tra’r ydyn ni’n gorfod cwrdd â biliau ynni a phwyseddau chwyddiant sy’n cynyddu tu hwnt i bob rheswm, y canlyniad yw fod yr arian sydd gennym ni i wario ar wasanaethau hollbwysig yn sylweddol yn llai. Rydyn ni wrth gwrs yn gwerthfawrogi’n fawr y setliad yma gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n bell o fod yn fwled arian i heriau cyllidebol neilltuol. Bydd yn rhaid i ni o hyd ymgynghori ein cymunedau ar benderfyniadau anodd dros ben i helpu i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn aros yn hyfyw i bawb sydd eu hangen nhw.”

-DIWEDD-

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30