Mae CLlLC wedi llongyfarch Liz Truss heddiw ar ei phenodiad yn Brif Weinidog newydd y DU, ond yn galw arni i ymyrryd yn syth yn yr argyfwng ariannol.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
““Hoffwn longyfarch Liz Truss heddiw ar ddod yn Brif Weinidog newydd y DU. Wrth iddi ymgymryd â'r awennau, mae llywodraeth leol eisiau gweithio ochr yn ochr â'i gweinyddiaeth newydd a Llywodraeth Cymru i helpu ein cymunedau anghenus. Rhaid gweithredu ar fyrder heb oedi. Mae cartrefi, busnesau, a'n gwasanaethau lleol yn cael eu gwthio fel erioed o'r blaen. Bydd y Prif Weinidog newydd yn cael ei barnu ar ei gweithredoedd yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod.
“Mae'n hollbwysig bod y cyllid angenrheidiol yn cael ei ddaparu ar unwaith o San Steffan i Gymru i warchod gwasanaethau lleol, busnesau, a chymunedau dros y misoedd anodd i ddod."
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard (Wrecsam), Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi cael perthynas dda gyda llywodraeth y DU a rydyn ni’n edrych ymlaen i weithio yn yr un modd yn y dyfodol. Ynghyd â Llywodraeth Cymru, rhaid i’r gwaith partneriaethol hwnnw barhau fel ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd trwy’r amseroedd anodd yma. Fel erioed, mae cynghorau yn parhau yn ddiarbed i gefnogi ein cymunedau. Ond mae yna feini tramgwydd cyllidebol aruthrol i’w goresgyn. Gofynnwn i’r Prif Weinidog newydd i helpu a chefnogi cymunedau ar draws Cymru trwy leihau’r pwysedd ar wasanaethau lleol hanfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi (Ynys Môn), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:
“Tra fy mod i’n llongyfarch Liz Truss ar ddod yn Brif Weinidog newydd y DU, does dim modd gorbwysleisio graddfa’r her i wasanaethau cyhoeddus. Mae trigolion yn dibynnu ar wasanaethau hanfodol megis ysgolion a gofal cymdeithasol pob dydd, ac yn edrych i ni am atebion. Rydyn ni eisiau i’n cynghorau i barhau i fod yno i’n cymunedau i’w tywys a’u cefnogi nhw. Ond mae angen cefnogaeth ar fyrder gan San Steffan i helpu i gwrdd â phwyseddau cyllidebol aruthrol. Rhaid i’r Prif Weinidog newydd weithredu ar unwaith i helpu cynghorau i helpu cymunedau.”
-DIWEDD-