CLlLC yn Galw ar Lywodraeth y DU i Flaenoriaethu Gofal Cymdeithasol a Buddsoddi mewn Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar ac Ataliol

Dydd Iau, 21 Medi 2023

Yn dilyn y cynhadledd flynyddol wythnos diwethaf, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi ysgrifennu at weinidogion ynglŷn â darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Mae’r llythyr yn manylu weledigaeth hirdymor lywodraeth leol ar gyfer gofal cymdeithasol a ddatblygwyd gan CLlLC ac ADSS Cymru ar y cyd â chynrychiolwyr llywodraeth leol allweddol, gan gynnwys Solace Cymru, Cyfarwyddwyr AD, a Chymdeithas Trysoryddion Cymru, ynghyd â Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’n dangos parodrwydd ac ymrwymiad y cyngor i weithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth, a rhanddeiliaid eraill, i archwilio sut y gallwn drawsnewid ein gwasanaethau gofal cymdeithasol gan arwain at ganlyniadau gwell i ddinasyddion.

 

Yr uchelgais yw creu system iechyd a gofal cymdeithasol gydnerth sy’n gwella annibyniaeth a llesiant dinasyddion. Er ein bod yn cydnabod yr anawsterau a achosir gan yr hinsawdd ariannol bresennol, er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, mae angen dirfawr am fuddsoddiad yn ein gwasanaethau llywodraeth leol. Mae hyn yn gofyn am gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU a Chymru i sicrhau bod cyllid cynaliadwy yn llifo o San Steffan sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, llefarydd WLGA dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

 

“Ni ellir gorbwysleisio’r pwysau ariannol y mae llywodraeth leol a gwasanaethau cymdeithasol yn eu hwynebu. Amcangyfrifwyd bod gorwariant ar wasanaethau cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig yn £93m, gydag awdurdodau lleol yn tynnu tua £193m o gronfeydd wrth gefn.

 

“Ymhellach, mae argyfwng recriwtio a chadw difrifol yn effeithio ar y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol. Mae angen gweithredu ar frys i sicrhau bod y gweithlu’n cael ei werthfawrogi, yn mwynhau cydraddoldeb â gweithwyr y GIG, ac yn cael tâl priodol. Mae’r newidiadau demograffig, costau byw, heriau’r gweithlu, a’r pwysau chwyddiant a brofir ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn golygu bod angen buddsoddiad sylweddol a dull gweithredu wedi’i ailffocysu.

 

“Mae’r weledigaeth arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol yn pwysleisio’r angen am fuddsoddiad cynyddol mewn cymorth cartref a chymunedol a fydd yn cadw unigolion yn ddiogel ac yn annibynnol, gyda mynediad at driniaeth gyflym neu gymorth mewn argyfwng pan fo angen. Trwy ganolbwyntio ar ddarparu gofal yn y lle iawn ar yr amser iawn, y nod yw creu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. I blant a theuluoedd, mae’r weledigaeth yn argymell buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, cyffredinol a chymorth cynnar i atal problemau rhag gwaethygu.”

 

Mae WLGA yn galw am gydweithio rhwng arweinwyr lleol, cymunedau, a phartneriaid ar draws sectorau, gan gynnwys iechyd, tai, busnesau a’r sector cyhoeddus ehangach i drawsnewid ein model iechyd a gofal cymdeithasol, gan flaenoriaethu ataliaeth a chymorth yn y gymuned.

 

DIWEDD –

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30