Mae’r CLlLC wedi ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch camau i’w cymryd i fynd i’r afael â’r diwylliant gweithio yn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mater a amlygwyd yn ddiweddar mewn adroddiad annibynnol.
Mae pedwar comisiynydd wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio’r Gwasanaeth, gan gynnwys cyn Arweinydd CLlLC, y Farwnes Wilcox o Gasnewydd.
Fis diwethaf, mynegodd arweinwyr eu sioc a’u pryder ynghylch yr ymddygiadau annerbyniol a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad “na ellir ac na fydd yn cael eu goddef”.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Llefarydd CLlLC ar y Gweithlu:
“Mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar ganfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol, i ddiwylliant gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn adlewyrchiad damniol o rai ymddygiadau a arddangosir gan unigolion”
“Mae’r adroddiad yn amlygu rhywfaint o ymddygiad annerbyniol ac ysgytwol na ddylid byth ei oddef yn y gweithle. Rwy’n gobeithio y bydd camau gweithredu pendant Llywodraeth Cymru yn arwain at y newid mawr a chynaliadwy sydd ei angen.”
“Bydd CLlLC ac awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y Comisiynwyr a phartneriaid i roi’r camau gweithredu sydd eu hangen i greu diwylliant cadarnhaol a chynhwysol, sy’n rhydd o wahaniaethu ar waith.”
DIWEDD –
NODIADAU I OLYGYDDION
Llywodraeth Cymru yn penodi comisiynwyr i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn dilyn adroddiad 'damniol'