CLlLC yn llongyfarch Myfyrwyr Cymru ar Ganlyniadau TGAU

Dydd Iau, 24 Awst 2023

Mae llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) dros Addysg a’r Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Ian Roberts, heddiw, wedi dymuno llongyfarchiadau i fyfyrwyr Cymru ar eu canlyniadau TGAU a diolchodd i staff addysg am eu gwaith caled.

 

Dywedodd Llefarydd WLGA dros Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts:

 

“Ar ran holl awdurdodau lleol Cymru, hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae canlyniadau heddiw yn dangos bod gwaith caled ac ymdrechion diwyd yn arwain at ganlyniadau gwych. Dymunwn y gorau i fyfyrwyr wrth iddynt gychwyn ar eu pennod nesaf.

 

“Ymhellach, mae'n bwysig cydnabod a gwerthfawrogi'r addysgwyr ymroddedig, y cynorthwywyr, a holl staff eraill y sector addysg sydd wedi bod yn allweddol wrth arwain a meithrin y meddyliau disglair hyn. Mae eu hymroddiad yn tanlinellu sut mae eu cyfraniadau yn gweithredu fel y sylfaen ar gyfer adeiladu cyflawniadau ein myfyrwyr. Gyda diolch, rydym yn cymeradwyo eu hymdrechion eithriadol i feithrin profiad addysgol cadarnhaol a chyfoethog.”

 

I unrhyw un na chafodd y canlyniadau roedden nhw eu heisiau, neu sy’n ansicr ynghylch eu camau nesaf, cysylltwch â Gyrfa Cymru am gyngor, siaradwch â’ch ysgol neu goleg neu ewch i wefan Cymru’n Gweithio.

 

DIWEDD –

Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30