Mae CLlLC wedi ymateb i setliad dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2025-26 sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:
"Tra y byddwn yn cymryd amser i ystyried y manylion, rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi llywodraeth leol. Mae’r setliad y flwyddyn nesaf dros £1bn fwy nag y byddai wedi bod o dan lywodraeth flaenorol y DU, sy'n brawf o newid cyfeiriad pendant a fydd yn helpu i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau.
"Serch hynny, ni ellir dadwneud dros ddegawd o doriadau ffyrnig a diffyg buddsoddiad yn y sector gyhoeddus dros nos mewn un setliad. Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i weithio mewn partneriaeth agos â llywodraethau Cymru a'r DU i sicrhau gwasanaethau lleol hanfodol ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn dal yno i gefnogi'r rhai sydd eu hangen. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol am ei hymgysylltiad agos â ni a byddaf yn edrych ymlaen at barhau â'n deialog adeiladol yn ystod y cyfnod ymgynghori."
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:
"Er ein bod wedi croesawu ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, mae hwn yn setliad siomedig sydd ddim yn mynd i'r afael â'r bwlch o £560m yng nghyllid cynghorau ar gyfer 2025-26. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gyflwyno cyllidebau cytbwys. Er mwyn cyflawni hyn, fe allen nhw nawr gael eu gorfodi i sefyllfa 'dewis Sophie' i gwrdd â'r diffyg - naill ai i edrych eto ar lefelau'r Dreth Gyngor i godi refeniw, neu i ystyried toriadau i wasanaethau bob dydd leihau gwariant. Byddai hyn yn ychwanegol i’r penderfyniadau amhosibl y mae cynghorau eisoes yn eu cymrud oherwydd maint yr heriau cyllid a diffyg buddsoddiad cronig yn y sector gyhoeddus.
"Mae'n amlwg nad yw'r sefyllfa yn gynaliadwy. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried r setliad ac archwilio'r holl lwybrau sydd ar gael iddynt i fuddsoddi yn ein gwasanaethau lleol hanfodol. Dim ond gyda chyllid hirdymor a chynaliadwy y gall cynghorau gefnogi trigolion, cymunedau a busnesau, a helpu i gyflawni uchelgeisiau cenedlaethol."
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:
"Mae llywodraeth leol wedi bod yn glir o'r rhagolygon ariannol llwm ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae'n amlwg nad yw'r cynnydd cyfartalog o 4.3% a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth Cymru yn cyrraedd y pwysedd o 7% sydd ar gyllidebau'r cyngor.
"Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r cyllid sydd ar gael i gynghorau lleol yn y gyllideb derfynol, bydd yn rhaid i gynghorau ledled Cymru wneud toriadau pellach i wasanaethau a chynnydd sylweddol yn nhreth y Cyngor er mwyn mantoli cyllidebau.
"Gallai'r setliad hwn fod yn achos dillad newydd yr ymerawdwr, o gofio ein bod yn dal i aros am eglurder o ran cyllid ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Mae'r cynnydd yn cynrychioli pwysedd o £109m mewn costau uniongyrchol, gyda £44m o bwysau ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol. Mae gwir angen cadarnhad arnom o'r cyllid hwnnw i sicrhau bod gennym hyder wrth gynllunio ein cyllidebau.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb yn llawn i'r pwysau gwariant sy'n wynebu awdurdodau lleol. Nid yw'r gyllideb ddrafft hon yn gwneud hynny. Mae angen eglurder ynglŷn â chefnogaeth Yswiriant Gwladol, ac mae hefyd angen cynnal trafodaethau i sicrhau cefnogaeth ychwanegol i awdurdodau sy'n disgyn ar ben isaf yr ystod yn y setliad."
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru CLlLC:
"Rydyn ni'n gwybod bod y pwrs cyhoeddus yn brin iawn, gyda phob lefel o lywodraeth yn gorfod wynebu penderfyniadau anodd. Fodd bynnag, bydd y setliad hwn yn bilsen anodd i lawer o awdurdodau ei lyncu. Mae'r galw ar wasanaethau fel gofal cymdeithasol, addysg a thai yn cynyddu'n gyson. Heb yr arian sydd ei angen i fynd i'r afael â'r gofynion hynny a chostau cynyddol, bydd gallu ein gwasanaethau lleol hanfodol i gyflawni dyletswyddau statudol, a chefnogi anghenion trigolion, yn cael ei rwystro'n ddifrifol.
"Mae yna hefyd amrywiad sylweddol yn lefelau'r cynnydd ar draws y 22 awdurdod, yn amrywio rhwng 5.6% a 2.8%. Bydd cynghorau sy'n derbyn cynnydd llai na'r cyfartaledd yn teimlo'n arbennig o agored i'r heriau ariannol difrifol sy'n wynebu gwasanaethau lleol. Dyna pam mae angen i ni weld llawr cyllido yn cael ei gyflwyno i helpu'r awdurdodau hyn. Edrychaf ymlaen at gyflwyno'r achos hwnnw i Ysgrifennydd y Cabinet a'i chydweithwyr yn y llywodraeth yn ystod y cyfnod ymgynghori."