Ymateb CLlLC i Ganlyniadau PISA 2022

Dydd Mawrth, 05 Rhagfyr 2023

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd WLGA:

 

“Tra bod canlyniadau PISA 2022 heddiw yn destun siom, mae’n bwysig nodi’r gwaith caled sydd eisoes ar y gweill i newid y dirwedd addysg. Ni fydd trawsnewid system ddysgu’r genedl yn digwydd dros nos ond dylai’r cwricwlwm newydd arloesol, sydd bellach wedi’i gyflwyno ym mhob ysgol, roi hyder bod Cymru ar y llwybr cywir.

 

“Rydym i gyd eisiau i’n plant a’n pobl ifanc gredu y gallant gyflawni eu potensial ac y bydd eu dyheadau’n cael eu cefnogi. Mae’r cwricwlwm newydd yn anelu at rymuso pob plentyn i gyrraedd y potensial hwnnw gyda ffocws cryfach ar ddull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Yn ogystal, mae cynghorau’n gweithio’n agos gyda’r Gweinidog fel rhan o’r cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i hybu gwelliant mewn mathemateg a llythrennedd.

 

“Mae ein hathrawon gwych, ein staff cymorth a’n harweinwyr addysg yn frwd dros godi safonau. Ynghyd â disgyblion a rhieni, maent wedi dangos gwytnwch rhyfeddol yn ystod cyfnod anhygoel o anodd i’n hysgolion oherwydd y pandemig a’r argyfwng Costau Byw. Ar ran llywodraeth leol, diolch i bawb sy’n gweithio mor galed i newid y system ac i drawsnewid profiadau dysgu ein plant a’n pobl ifanc. Bydd cynghorau’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn llwyddo i godi safonau a chyrhaeddiad.”

 

DIWEDD –

Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30