Datganiad CLlLC ar Bapur Gwyn plismona Llywodraeth y DU

Dydd Gwener, 30 Ionawr 2026

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn croesawu cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth y DU, From Local to National: A New Model for Policing.

Rydym yn falch o weld y pwyslais ar ail-fywiogi plismona cymdogaeth, a’r pwysigrwydd a roddir ar blismona lleol gweladwy sy’n canolbwyntio ar anghenion cymunedau lleol, yn ogystal â’r rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae wrth hyrwyddo a galluogi gweithio ar y cyd i helpu i leihau troseddu.

Mae CLlLC hefyd yn croesawu’r ymrwymiad i weithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a phartneriaid plismona, i ddatblygu model llywodraethu ar gyfer plismona yn y dyfodol sy’n cydnabod y dirwedd unigryw yng Nghymru ac sy’n gweithredu’n effeithiol o fewn cyd-destun datganoledig Cymru.

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi sefydlu perthnasoedd gwaith cadarnhaol â chynghorau ac yn gweithio’n agos gydag ystod eang o bartneriaid i gyflawni blaenoriaethau a rennir a nodir yn eu Cynlluniau Heddlu a Throseddu. Mae eu penderfyniad diweddar i ymuno â CLlLC fel aelodau cyswllt yn adlewyrchu cryfder y partneriaethau hyn a’r rolau pwysig y maent yn eu chwarae ochr yn ochr â chynghorau wrth gadw cymunedau’n ddiogel.

Wrth i gynigion ar gyfer diwygio ddatblygu, bydd yn bwysig cymryd amser i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi gweithio’n dda o fewn y trefniadau presennol, ac i sicrhau bod dysgu o strwythurau presennol yn cael ei barhau i unrhyw fodel newydd o lywodraethu’r heddlu.

Bydd CLlLC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref, partneriaid plismona yng Nghymru ac eraill ar ddatblygu model llywodraethu sy’n addas i’r diben ac wedi’i wreiddio mewn atebolrwydd democrataidd lleol.

Wrth ystyried unrhyw newidiadau i strwythurau’r heddlu yn y dyfodol, mae’n bwysig bod lluoedd yn cadw cysylltiadau cryf â chymunedau lleol ac nad ydynt yn cael eu gwanhau drwy strwythurau lu rhy fawr neu anghysbell.

Bydd CLlLC bellach yn cymryd amser i dreulio ac ystyried y cynigion a nodir yn y Papur Gwyn yn fanylach. 
 

Categorïau: Newyddion

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30