Cafodd gweledigaeth feiddgar ei lansio heddiw ar gyfer cymunedau gwledig cyn etholiad y Senedd eleni a Llywodraeth Cymru newydd.
Amlinellwyd saith galwad allweddol gan Fforwm Wledig CLlLC, sydd yn cynnwys y naw o awdurdodau gwledig Cymru, i gefnogi cymunedau bywiog a deinamig ar draws Cymru wledig. Mae’r saith galwad yn gofyn am:
- Gefnogi arallgyfeirio'r sylfaen economaidd wledig a mabwysiadu dull economi gylchol o ymdrin â chynhyrchion gwledig naturiol.
- Greu rhaglen ieuenctid wledig wedi'i thargedu i fuddsoddi, uwchsgilio a chadw pobl ifanc ddisglair a thalentog mewn cymunedau gwledig.
- Ychwanegu gwerth at seilwaith gwledig.
- Sicrhau sector dwristiaeth gynaliadwy sy'n cefnogi cymunedau, busnesau a phobl leol.
- Teilwra polisïau tai i adlewyrchu anghenion y gymuned leol.
- Buddsoddi mewn trefi gwledig clyfar a ffyniannus.
- Adeiladu cyfoeth cymunedol a mynd i'r afael a’r Canol Coll o fewn economi Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Gwynedd), Cyd Gadeirydd y Fforwm Wledig:
“Cynnyrch o weithio gyda’n gilydd fel Fforwm Wledig yw’r weledigaeth hon, ac hefyd yn benllanw o ymgysylltu estynedig gyda phartneriaid a trigolion eu hunain. Rydyn ni eisiau gweld potensial Cymru wledig yn cael ei ddatgloi yn llawn mewn ffordd gynaliadwy a fydd o fudd i drigolion ac ymwelwyr fel eu gilydd yn ein cymunedau gwledig. Rydyn ni am iddyn nhw fod yn leoliadau bywiog ac addas i fyw, gweithio a magu teuluoedd ifanc ynddyn nhw. A rydyn ni eisiau sicrhau dyfodol cefn gwlad Cymru am genedlaethau i ddod. Bydd gan y grwp nesaf o Aelodau o’r Senedd a Llywodraeth Cymru ran hollbwysig i’w chwarae i wireddu’r uchelgeisiau yma, ac edrychwn ymlaen i gydweithio â nhw i wella bywydau trigolion ein cymunedau gwledig.”
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris (Powys), Cyd Gadeirydd y Fforwm Wledig:
“Mae Cymru wed’i hadeiladu ar ein cymunedau gwledig. Ond nid amgueddfeydd llychlyd mohonyn nhw; mae nhw’n lefydd byw sy’n gartref i lawer o boblogaeth Cymru. Amlinella’r Weledigaeth Wledig yma sut y gall y Senedd a’r Llywodraeth Cymru newydd helpu i ddatblygu’r pobl, llefydd a’r economïau lleol yn yr ardaloedd yma dros y tymor nesaf. Bydd gan Covid, Brexit a newid hinsawdd i gyd eu heffeithiau unigryw ar ein cymunedau ac economïau lleol, a bydd angen ymrwymiad cadarn i gyfateb â gweledigaeth feiddgar nid yn unig i drechu’r effeithiau yma, ond hefyd i sicrhau dyfodol llewyrchus a chynliadwy.”
DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion
- Mae Fforwm Wledig CLlLC yn cynnwys y naw awdurdod lleol gwledig sef: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Benfro, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Ynys Môn.
- Dilynwch y linc yma i gyrchu’r Weledigaeth Wledig: https://www.wlga.cymru/wlga-rural-wales-manifesto