CLlLC yn croesawu dull pwyllog y Prif Weinidog i gyfyngiadau presennol

Dydd Gwener, 08 Mai 2020

Yn ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf) Arweinydd CLlLC:

 

“Rydyn ni’n croesawu’r dull gofalus tuag at y cyfyngiadau a amlinellodd y Prif Weinidog heddiw. Er bod y mân newidiadau yma’n cael eu gwneud, rhaid parhau i gymryd gofal mawr ac i aros adref cyn gymaint â phosib.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl yn teimlo’n bryderus; sawl un yn ofnus am godi’r cyfyngiadau yn rhy fuan, tra bydd eraill yn awyddus i ddychwelyd i ryw fath o drefn arferol. Mae Llywodraeth Cymru yn glir y bydd unrhyw newidiadau i’r cyfyngiadau ond yn digwydd pan fo’n ddiogel i wneud hynny, yn cael eu tywys gan y cyngor gwyddonol diweddaraf.

“Nid yw’r mân newidiadau heddiw yn golygu bod gwasanaethau lleol yn cael eu hailsefydlu megis fflicio switsh. Bydd angen cynllunio gofalus, estynedig dros amser cyn i unrhyw wasanaethau allu dychwelyd yn y dyfodol. Caiff ei sefyllfa ei chadw o dan lygad barcud ac adolygiad parhaus. Pe bai rheolau a rheoliadau yn cael eu hymlacio’n ddigonol, bydd awdurdodau lleol ond yn ystyried ailagor pan y byddant yn hyderus y gall wasanaethau gael eu cynnal yn unol â chanllawiau’r llywodraeth mewn ffordd sy’n sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd fel eu gilydd.”

“Mae arweinwyr cyngor yn parhau i drafod yn rheolaidd gyda Gweinidogion, ac yn cwrdd ddydd Llun i drafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru.”

 

-DIWEDD-

 

 

Nodiadau i Olygyddion

 

 

 

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30