Mae CLlLC wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod am ddarparu £96m i roi taliad ychwanegol o £1,000 i filoedd o weithwyr gofal cymdeithasol, sy'n cyd-fynd â chyflwyno'r cyflog byw go iawn,
Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:
"Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol wedi bod yn anhygoel drwy gydol y cyfnod hwn ac felly rydym yn croesawu'r taliad ychwanegol sy'n cyfrannu at gydnabod yr ymdrech aruthrol, y cyfraniadau anfesuradwy a'r aberth y mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi'u gwneud mewn cyfnodau anodd iawn, gan gydnabod y gofal a'r gefnogaeth amhrisiadwy y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn eu darparu i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
"Drwy gydol y pandemig mae'r system gofal cymdeithasol wedi bod dan straen aruthrol, ac yn parhau i fod dan straen enfawr. Mae CLlLC wedi bod yn galw ers tro am yr angen am gyllid ychwanegol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn gosod sail gynaliadwy, ac rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gwyddom fod heriau sylweddol o'n blaenau. Mae llywodraeth leol yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r holl bartneriaid i sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa deniadol i unigolion, lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu gwobrwyo'n briodol a bod ganddynt lwybr a datblygiad gyrfa o fewn sector gofal proffesiynol.”
-DIWEDD-