Yn gynharach eleni, ymgymerodd Gofal Cymdeithasol Cymru â’r arolwg Cymru gyfan cyntaf o’r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi heddiw.
Wrth ymateb i arolwg Gofal Cymdeithasol Cymru o’r gweithlu cofrestredig yng Nghymru, dywedodd y Cynghorydd Huw David OBE (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd WLGA dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith anhygoel bob dydd gan alluogi pawb sy’n defnyddio gofal a chymorth i fyw bywyd boddhaus. Mae’r ffaith bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a’r teuluoedd y maent yn eu cefnogi yn dyst i’r ymroddiad a’r ymrwymiad y mae’r gweithlu yn parhau i’w ddangos.”
“Fodd bynnag, mae’r arolwg yn ychwanegu tystiolaeth bellach i’r angen i fynd i’r afael â’r heriau gweithlu sy’n ein hwynebu ar fyrder. Mae’r ffaith bod llawer yn dal i adlewyrchu eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio gan y cyhoedd ac nad ydynt yn cael digon o dâl am y gwaith y maent yn ei wneud yn parhau i fod yn destun pryder. Mae arnom angen gweithlu sy'n wirioneddol werthfawr, sydd â pharch cydradd â gweithwyr y GIG ac sy'n cael eu gwobrwyo'n briodol am y gwaith amhrisiadwy y maent yn ei wneud. Mae’n hanfodol ein bod yn blaenoriaethu ac yn buddsoddi yn ein gweithlu gofal cymdeithasol, a bydd methu â gwneud hynny yn arwain at ganlyniadau difrifol ar gyfer darparu ein gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol yn y dyfodol sy’n chwarae rhan mor bwysig ym mywydau llawer o bobl.”
DIWEDD –