CLlLC yn croesawu cynlluniau Treth y Cyngor Llywodraeth Cymru

Dydd Mawrth, 07 Rhagfyr 2021

 

Gan ymateb i’r cyhoeddiad heddiw gan Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad y flwyddyn nesaf ar ddiwygio treth y cyngor, dywedodd y Cyng. Anthony Hunt (Llefarydd Cyllid CLlLC):

Croesawir y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw ac rydym yn cefnogi’r camau cychwynnol hyn a wneir i ddiwygio Treth y Cyngor a’i wneud yn decach. 

Mae Treth y Cyngor yn ffurfio cyfran fawr o gyllid i wasanaethau lleol, ac yn ariannu gwasanaethau mawr megis addysg a gofal cymdeithasol yr holl ffordd i lawr i wasanaethau llai, ond hanfodol, megis iechyd yr amgylchedd a safonau masnach. 

Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru’r system o drethu lleol a'i wneud yn fwy blaengar.  Bydd angen i ni gydweithio i ystyried yr effaith ar gyllid aelwydydd a'r gwasanaethau a gânt.  Croesawir yr ymgynghoriad y flwyddyn nesaf a dylai fod mor eang â phosib gan weithio gyda gwleidyddion ar bob lefel i ystyried barn ein cymunedau ledled Cymru a fydd yn cael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau.

Rwy’n falch fod y Gweinidog yn cydnabod yr angen i ganolbwyntio ar y ‘blociau adeiladu’ yn y camau cynnar.  Bydd hyn yn gosod y sylfaeni ar gyfer diwygiadau mwy hirdymor ac ymgysylltiad ystyrlon ar draws ein cymunedau, siambrau cynghorau a’r Senedd.

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30