Ymateb CLlLC i adroddiad Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar ryddhau cleifion o'r ysbyty a'i effaith ar lif cleifion drwy ysbytai

Dydd Mercher, 15 Mehefin 2022

Ymateb CLlLC i adroddiad Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar ryddhau cleifion o'r ysbyty a'i effaith ar lif cleifion drwy ysbytai

Heddiw, cyhoeddodd Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei ymchwiliad i ryddhau cleifion o'r ysbyty a'i effaith ar lif cleifion drwy ysbytai. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o heriau sy'n wynebu'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cydnabod yr argyfwng presennol sy'n wynebu'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'n nodi'r angen i gymryd camau radical i ddiwygio’r system iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys roi clod a chydnabyddiaeth i staff gofal cymdeithasol.

Mae awdurdodau lleol yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n wynebu gofal cymdeithasol, yn benodol yr angen i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu trin â'r un parch â staff y GIG.

Wrth ymateb i'r Adroddiad, dywedodd Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC:

"Mae adroddiad heddiw yn tynnu sylw at y pwysau digynsail y mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig, yn ogystal â llawer o'r materion a oedd yn bodoli o'r blaen. Mae'n darparu tystiolaeth bellach o rai o'r heriau sylweddol sy'n wynebu’r sector gofal cymdeithasol a'r angen i ddod o hyd i atebion i'r ffordd rydym yn talu am ofal cymdeithasol yn y tymor hwy.

"Mae llywodraeth leol wedi bod yn galw ers amser am yr angen i werthfawrogi a buddsoddi yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod staff yn gadael gofal cymdeithasol i weithio yn y GIG. Credwn hyd nes y ceir gwir gydraddoldeb o ran cyflog a thelerau ac amodau ar gyfer staff gofal cymdeithasol gyda'u cymheiriaid yn y GIG, y bydd y sector yn parhau i'w chael hi'n anodd recriwtio a chadw staff.

"Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr effaith y mae diffyg buddsoddiad yn ein gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'i gael. Mae'n dangos sut mae hyn yn effeithio ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â  llif unigolion drwy ysbytai. Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar ryddhau cleifion o'r ysbyty a'r camau y gellir eu cymryd i hwyluso’r broses, mae llywodraeth leol yn credu'n gryf, os ydym am weithredu’n effeithiol, fod yn rhaid i'n dull gweithredu ganolbwyntio ar gynyddu buddsoddiad mewn ymyrraeth gynnar a gwasanaethau ataliol yn y gymuned. Mae hi’n bwysig gweithio gyda gofal sylfaenol, i ganolbwyntio mwy ar atal derbyniadau i'r ysbyty yn y lle cyntaf.

"Mae llywodraeth leol yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r heriau a gyflwynir yn yr adroddiad heddiw ac yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd a'r holl bartneriaid i wella'r system iechyd a gofal cymdeithasol.Ond rhaid rhoi blaenoriaeth i gymryd camau i ddatrys heriau parhaus y gweithlu, gan sicrhau bod digon o gyllid ar gael i ddarparu system gofal cymdeithasol gynaliadwy."

Postio gan
Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30