Ymchwiliad Covid-19 y DU: CLlLC yn ymateb i ganfyddiadau Modiwl 1

Dydd Iau, 18 Gorffennaf 2024

Mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad Modiwl 1 o’r Ymchwiliad Covid-19 y DU, dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE:

 

“Ar ran llywodraeth leol yng Nghymru, diolchwn i’r Farwnes Hallett am ei gwaith yn adlewyrchu ar ein profiadau yn ymateb i’r pandemig. Wrth galon Ymchwiliad Covid-19 y DU mae’r goroeswyr a’r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid. Mae’r adroddiad heddiw yn gyfraniad sylweddol i’n helpu i ddysgu o’r profiad hwnnw ac i sicrhau y bydd y DU yn fwy parod yn y dyfodol.

 

“Trwy gynrychiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ystyriwyd gan yr ymchwiliad brofiadau ein cynghorau cyn ac yn ystod y pandemig, ac wedi arwain at yr argymhellion yma.

 

“Mae llywodraeth leol yng Nghymru wastad wedi gweithio â phartneriaid i gefnogi ac amddiffyn cymunedau lleol. Rydyn ni’n croesawu bod yr ymchwiliad wedi adnabod yr angen am ddull aml-asiantaeth effeithiol tuag at gynllunio am unrhyw bandemig yn y dyfodol. Mae gan gynghorau gymaint i’w gyfrannu at barodrwydd a gwytnwch a byddant yn parhau i chwarae eu rhan i helpu i weithredu’r canfyddiadau.

 

“Byddwn yn ystyried yn ofalus yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad, ac ymagweddau at barodrwydd a chynllunio i’r dyfodol.”

 

DIWEDD -

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30