Mae arweinwyr cynghorau gwledig wedi galw am ffocws newydd ar faterion gwledig ledled Llywodraeth Cymru i helpu I annog twf economaidd.
Gwnaeth yr aelodau’r alwad mewn trafodaeth a gynhaliwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, gan ganolbwyntio ar rôl cynghorau yn cefnogi ysgogi economïau lleol gwledig.
Amlinellodd Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Twf Gwledig y Senedd, Samuel Kurtz AS, argymhellion ei adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar hefyd.
Mae'r argymhellion yn cynnwys:
• Buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith digidol i wella cysylltedd band eang a symudol.
• Cyflwyno Cynllunio mewn Egwyddor i symleiddio a chyflymu'r broses gynllunio.
• Addasu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i ddarparu cyllid clir a hyblyg ar gyfer arferion cynaliadwy.
• Sefydlu Bwrdd Datblygu Gwledig i osod strategaeth datblygu gwledig clir.
Dywedodd Cllr Dyfrig Siencyn, Lleferydd Gwledig CLlLC:
“Mae mwyn a thrydedd o boblogaeth Cymru yn galw Cymru Wledig yn gartref. Mae trefi a phentrefi yn yr ardaloedd hyn yn llawn arloesedd, bywiogrwydd a menter, ar draws diwydiannau fel amaethyddiaeth, twristiaeth, coedwigaeth, manwerthu, masnachol, lletygarwch a llawer mwy. Mae’r cymunedau hyn yn haeddu ystyriaeth gyfartal a chymaint o gyfleoedd i ffynnu ag mewn mannau eraill ym mhob rhan o’r wlad.
“Ond mae anghenion penodol cymunedau gwledig yn sylweddol wahanol i rai cytrefi. Gall materion pwysig fel cysylltedd a thrafnidiaeth gyhoeddus, anghenion tai, a seilwaith digidol, effeithio’n anghymesur ar drigolion a busnesau sy’n byw yn nhrefi a phentrefi ein cymunedau gwledig, sy’n aml yn wahanol iawn i’w gilydd. Yr unig ffordd i gydnabod yn llawn anghenion ein broydd gwledig yw drwy ganolbwyntio’n benodol ar faterion gwledig ar draws Llywodraeth Cymru ym mhob maes.
“Mae adroddiad y Senedd yn gam yn y cyfeiriad cywir ar gyfer Cymru Wledig ac mae’n tynnu sylw at rai o’r pethau rydyn ni wedi bod yn gofyn am. Mae CLlLC yn barod i gydweithio â’r holl randdeiliaid i roi’r argymhellion hyn ar waith a sicrhau dyfodol llewyrchus i gefn gwlad Cymru.”