Cynghorydd Ian Roberts yn sefyll lawr fel Arweinydd Sir y Fflint

Dydd Gwener, 02 Awst 2024

Mae CLlLC wedi talu teyrnged i'w Llefarydd Addysg, Cynghorydd Ian Roberts, wrth iddo sefyll lawr fel Arweinydd Cyngor Sir y Fflint.

Mae Cynghorydd Roberts wedi gweithio fel cynghorydd am dros 30 mlynedd. Cafodd ei ethol yn arweinydd yr awdurdod yn 2019 ac Llefarydd Addysg CLlLC ers 2020. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Ar ran CLlLC, hoffwn ddiolch i Ian am ei gyfraniad mawr i lywodraeth leol yn Sir y Fflint a ledled Cymru. 

"Yn ei rôl fel Llefarydd Addysg CLlLC, mae Ian wedi defnyddio ei brofiad helaeth yn addysg i helpu i ddylanwadu ar bolisi ledled Cymru. Chwaraeodd ran allweddol yn ein hymateb i’r pandemig Covid ac wrth geisio lliniaru’r effeithiau ar ddisgyblion a dysgu.

“Mae Ian bob amser wedi gwasanaethu ei gymuned yn Sir y Fflint gyda balchder. Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn parhau i wneud hynny yn ei ymdrechion yn y dyfodol.”

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30