Terfysgoedd y DU: Cynghorau Cymru yn gweithio'n agos gyda'r heddlu

Dydd Gwener, 09 Awst 2024

Mewn ymateb i olygfeydd o drais ac anhrefn mewn rhannau o Loegr a Gogledd Iwerddon, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

 

“Mae’r aflonyddwch diweddar mewn rhannau o’r DU yn peri pryder mawr ac nid oes iddo le yn ein cymdeithas. Rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus ac ymroddedig i gynnal a hyrwyddo undod a goddefgarwch ar draws ein cymunedau.

 

“Mae’n hollbwysig ein bod yn sefyll gyda’n gilydd yn erbyn unrhyw ymdrechion i annog ymraniad neu gasineb. Mae arweinwyr cynghorau o bob rhan o Gymru wedi cyfarfod ag uwch swyddogion yr heddlu i gael sicrwydd ar cymryd camau cadarn lle bo angen a chael digon o adnoddau i ymateb os oes angen.” 

 

“Mae CLlLC yn gweithio gyda chynghorau ledled Cymru wrth iddyn nhw fonitro’r sefyllfa, gan weithio gyda phartneriaid lleol i helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30