Arweinydd CLlLC yn talu teyrnged i'r Llywydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mercher, 06 Mawrth 2024

Mae Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan, wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Huw David OBE yn dilyn y cyhoeddiad y bydd yn sefyll lawr fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr awdurdod sydd ar ddod.

Etholwyd y Cynghorydd David fel Arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf ym mis Hydref 2016 a daeth yn aelod o Gabinet yr awdurdod am y tro cyntaf yn 2012. Ers 2019, mae wedi gweithredu fel Llywydd CLlLC ac mae hefyd wedi cyfrannu’n fawr at waith y Gymdeithas fel ei Llefarydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yn flaenorol fel Llefarydd Addysg. Ym mis Mehefin 2022, cafodd ei anrhydeddu ag OBE gan y diweddar Frenhines Elizabeth II i gydnabod ei ymdrechion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Dros nifer o flynyddoedd, mae’r Cynghorydd Huw David wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith llywodraeth leol ac mae’n cael ei barchu gan ei holl gyfoedion ledled Cymru, yn ogystal â llawer o partneriaid. Fel Llefarydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae Huw wedi dangos yn gyson ei angerdd dros amddiffyn pobl agored i niwed a sicrhau mynediad at ofal i’r rhai sydd ei angen. Nid oedd hyn ar unrhyw adeg yn fwy amlwg nag yn ystod y pandemig Covid, wrth i Huw achub ar bob cyfle i gyflwyno’r achos dros wasanaethau lleol a llesiant gweithwyr gofal.

“Mae agwedd ddiarfog a charedig Huw wedi bod yn nodwedd allweddol yn ystod ei gyfnod fel Llywydd CLlLC sydd wedi ennill ymddiriedaeth cydweithwyr o bob rhan o Gymru a ledled y DU. Drwy gydol y cyfnod hwn, mae wedi dangos gwir arweiniad ac ymroddiad wrth eiriol dros lywodraeth leol. Mae ei waith diflino dros wasanaethau lleol ar lefel genedlaethol yn cyd-fynd yn unig â’i gyfraniad mawr a’i falchder yn ei gymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

“Er gwaethaf y newyddion heddiw, rwy’n hyderus y bydd y Cynghorydd David yn parhau â’i waith diflino yn ei gymuned. Ar ran arweinwyr ledled Cymru a staff CLlLC, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Huw am ei gyfraniad i lywodraeth leol dros nifer o flynyddoedd. Ac fel ffrind a chydweithiwr, dymunaf y gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30