CLlLC yn rhybuddio am effaith ar gymunedau oherwydd diffyg buddsoddiad yng Nghyllideb y Gwanwyn

Dydd Mercher, 06 Mawrth 2024

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi galw heddiw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei dyraniadau cyllidebol i fynd i’r afael ag anghenion dybryd cymunedau ledled Cymru, gan fynegi braw ynghylch y diffyg cyllid ar gyfer gwariant cyhoeddus neu fuddsoddiad. 

Gan adleisio galwadau tebyg gan Lywodraeth Cymru, mae CLlLC yn haeru y dylai’r Canghellor ganolbwyntio’n bennaf ar flaenoriaethu buddsoddiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid CLlLC:

“Rydym yn bryderus iawn am oblygiadau Cyllideb y Gwanwyn i gymunedau ledled Cymru. 

“Mae’r Canghellor yn sôn am wariant gwastraffus, ond y gwir amdani yw bod cynghorau ar eu gliniau diolch i’w Lywodraeth, gyda gwariant dewisol yn cael ei dorri hyd at 40% ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant. Mae'r gwasanaethau cyhoeddus lleol a ddarperir gan gynghorau yn profi pwysau ariannol digynsail ac mae cynghorau'n ystyried pob llwybr posibl i fantoli cyllidebau. Er y gallant ymdopi yn y tymor byr, mae pryder difrifol ynghylch goroesiad gwasanaethau lleol hanfodol. Mae disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni mwy gyda llai o gyllid, felly ni ellir gorbwysleisio’r straen ar gynghorau. 

“Bydd diffyg buddsoddiad mewn llywodraeth leol ond yn cynhyrchu canlyniadau gwaeth i gymunedau a bydd yn effeithio ar allu cynghorau i ariannu ysgolion a gofal cymdeithasol, adeiladu tai cymdeithasol a buddsoddi yn y newid i sero net. 

“Diolch i’r Gyllideb hon, bydd cymunedau Cymru yn profi cynnydd yn y Dreth Gyngor ond gallant ddisgwyl gweld llai am eu harian. Gallai hyn gael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd, a chymunedau ledled Cymru gan fod hyn yn ychwanegu at y pwysau a deimlwyd eisoes oherwydd yr argyfwng costau byw a chyfraddau chwyddiant uchel. Mae'r gwasanaethau sy'n sail i wead cymdeithas dan straen. 

“Mae angen ariannu’r GIG a gofal cymdeithasol ar sail gyfartal gan eu bod yn rhan o’r un system a bod ganddynt bwysau tebyg. Er gwaethaf y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer y GIG, mae gofal cymdeithasol yn parhau i gael ei danariannu a’i ddiystyru’n ddifrifol, gan waethygu’r pwysau presennol ar awdurdodau lleol yn ogystal â chynyddu’r baich ar y gwasanaeth iechyd.” 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30