Meddai Chris Llewelyn Prif Weithredwr CLlLC:
"Ar ran cynghorau Cymru, hoffem longyfarch Ei Mawrhydi’r Frenhines ar ddod y teyrn Prydeinig cyntaf i ddathlu Jiwbilî Platinwm. Ers 70 mlynedd, mae wedi bod yn batrwm i'w hefelychu ar ran gwasanaeth cyhoeddus a dyletswydd, ac yn ysbrydoliaeth i lawer o gynghorwyr ei dilyn. Hoffem gyfleu ein dymuniadau gorau wrth i gymunedau ymgynnull i goffáu'r garreg filltir hanesyddol hon."