Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi diolch yn ddiffuant i weithwyr cyngor sy'n ymateb i'r dinistr a achoswyd ledled Cymru gan Storm Bert.
Gwelwyd tywydd erchyll mewn rhannau o'r wlad, gan arwain at drafferthion mawr gan gynnwys llifogydd difrifol mewn sawl ardal.
Cynghorir trigolion i wrando ar ddiweddariadau lleol yn eu hardaloedd gan fod gwasanaethau a seilwaith wedi cael eu amharu yn ddifrifol. Mae rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:
"Mae gweithwyr cyngor, ochr yn ochr â chydweithwyr yn y gwasanaethau brys, wedi bod yn gweithio'n ddiflino rownd y cloc mewn tywydd ffyrnig i ymateb i effeithiau dinistriol y storm.
"Yn ogystal â glanhau cwlferi, clirio coed sydd wedi cwympo, dosbarthu bagiau tywod ac ymateb i argyfyngau, rydym wedi gweld criwiau diflino yn mynd y tu hwnt i ddyletswydd i sefydlu canolfannau gorffwys brys, cadw gwasanaethau hanfodol ar agor, ac i sicrhau diogelwch preswylwyr. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iddynt i gyd am eu gwaith caled a'u hymdrechion diflino. Byddant hefyd yn rhan annatod wrth i'n cymunedau geisio adfer ac ailadeiladu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Unwaith eto, mewn amgylchiadau anodd iawn, rydym wedi gweld gwir werth ein cynghorau lleol.
"Mae trigolion yn cael eu hatgoffa bod rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym mewn rhai ardaloedd. Mae rhai ffyrdd yn dal ar gau a difrod difrifol i isadeiledd. Byddwn yn cynghori pawb i gadw golwg ar wefan eu hawdurdod lleol am unrhyw ddiweddariadau.
"Rwyf wedi siarad â'r Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru i amlinellu graddfa yr effeithiau. Er ei bod yn rhy gynnar o hyd i allu asesu'r difrod a achoswyd yn llawn, mae'n amlwg ei bod yn debygol iawn o fod yn sylweddol. Bydd CLlLC yn gweithio'n agos ac yn gyflym gyda llywodraethau Cymru a'r DU i weld pa gymorth sydd ar gael i gynghorau i gefnogi’r ymdrechion adfer ac ailadeiladu."
DIWEDD –