Croesawu tâl ychwanegol i weithwyr gofal cymdeithasol

Dydd Mercher, 17 Mawrth 2021

Croesawu tâl ychwanegol i weithwyr gofal cymdeithasol

 

Yn dilyn cyhoeddiad gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar daliad o £500 (ar ôl didyniadau) i staff gofal cymdeithasol a’r GIG fe ddywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-Y-Bont Ar Ogwr), Lleferydd CLlLC dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: 

 

“Rydym yn croesawu’r taliad ychwanegol i staff gofal cymdeithasol, a’r taliad cyntaf i staff GIG er mwyn cydnabod y cyfraniadau a’r aberthu na ellir rhoi pris arnynt wrth gefnogi pobl fwyaf diamddiffyn ein cymunedau yn ystod pandemig COVID.  Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr bob dim maen nhw wedi’i wneud, ac yn gyfnewid am hynny mae’n rhaid i ni barhau i gefnogi a gofalu am y gweithlu ei hun gan sicrhau mynediad i wasanaethau lles meddyliol. Mae’r pandemig yn dal i fodoli ac mae angen eu hymrwymiad parhaus yn y dyfodol a ragwelir.  

 

“Wrth edrych ymlaen, mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i sicrhau fod y gweithlu gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi a gyda pharch cydradd â’r GIG.  Mae Maniffesto CLlLC ar gyfer Lleoliaeth yn galw am fuddsoddiad ychwanegol i’r gweithlu gofal cymdeithasol, yn cynnwys sicrhau fod y gweithlu yn cael ei wobrwyo’n briodol ar gyfer y gwaith amhrisiadwy a wnânt a gyda llwybr i gamu ymlaen yn ei gyrfa o fewn sector gofal proffesiynol. Credwn fod rhaid cael uchelgais yn y Llywodraeth Cymru newydd yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai a bod adnoddau’n cael eu darparu i sicrhau fod Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei dalu i’r holl sector gofal cymdeithasol fel y taliad lleiaf posib.”

 

Nodiadau

Dyma daliad unwaith ac am byth i staff y GIG a gofal cymdeithasol, sydd gyfwerth â £735 y person, i dalu am y raddfa dreth sylfaenol a chyfraniadau yswiriant cenedlaethol. 

 

-DIWEDD-

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30