Mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, mae CLlLC wedi bod yn gweithio gyda’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddatblygu amserlen 5 mlynedd ar gyfer cynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru rhwng 2022 a 2026. O ganlyniad, mae cynlluniau amgen ar y gweill i nodi Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Ngymru yn 2021 dros y we.
Fel y gwelir yn yr amserlen, bydd digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn teithio ar draws pob rhanbarth o Gymru ac i wahanol gymunedau.
Yn dilyn trafodaethau, bydd yr awdurdodau lleol yma’n cynnal y digwyddiad arbennig hwn rhwng 2022-2026:
• Wrecsam
• Casnewydd
• Abertawe
• Sir Fynwy
• Sir Gâr
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cofnodi ac yn dathlu cymuned y Lluoedd Arfog a’r bartneriaeth gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, y tri gwasanaeth a phartneriaid eraill. Caiff y digwyddiad gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â'r digwyddiad cenedlaethol, mae sawl awdurdod lleol yn cynnal digwyddiadau yn eu cymunedau nhw hefyd.
Dywedodd y Cyng. Maureen Webber, Dirprwy Lefarydd CLlLC ar Ddiogelwch Cymunedol a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf:
“Mae’r rhai sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog, cyn filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd i gyd yn aelodau gwerthfawr o’n cymunedau yng Nghymru. Diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth a’r aberth ganddyn nhw i gadw ein cymunedau’n ddiogel, gan gynnwys ymdrechion diweddar i gadw cymunedau’n ddiogel rhag Coronafeirws. Mae pob Cyngor yng Nghymru yn falch o fod wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog ac maen nhw wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i arddangos gwaith y Lluoedd Arfog a dangos ein cefnogaeth.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
“Mae’r Lluoedd Arfog wedi cefnogi ein cymunedau erioed; yn ystod y pandemig ar hyn o bryd maen nhw’n chwarae rôl hanfodol wrth gynnig cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth a’n gwerthfawrogiad o Gymuned y Lluoedd Arfog ac rydw i’n edrych ymlaen at y digwyddiadau wyneb yn wyneb unwaith eto.”
-DIWEDD-