Mae angen ateb ariannu hirdymor ar gyfer gwaith adfer parhaus ar hen safleoedd tomenni glo

Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2023

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi croesawu cyhoeddi data am domennydd glo segur yr wythnos hon, ond mae hefyd wedi galw am ateb cyllid hirdymor ar gyfer gwaith adfer parhaus.

 

Fel rhan o fesurau diogelwch yn dilyn tirlithriad Tylorstown ym mis Chwefror 2020, gellir gweld data ynghylch lleoliad a chategoreiddio tomenni glo nas defnyddir bellach ar fapiau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd WLGA:

 

“Dylai cyhoeddi’r mapiau helpu i roi’r eglurder a’r tryloywder sydd eu hangen ar bobl ledled Cymru o ran y lleoliad ac unrhyw risgiau cysylltiedig a achosir gan domenni glo segur. Mae ein treftadaeth ddiwydiannol i’w gweld mewn rhannau helaeth o dirwedd Cymru, ac mae cynghorau wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth y DU, fel rhan o’r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo, i nodi’r safleoedd segur.

 

Rydym yn hynod ddiolchgar am y £44.4 miliwn sydd wedi’i ddarparu hyd at ddiwedd 2024-25 i gynghorau a phartneriaid i wneud gwaith cynnal a chadw ar hen domenni. Byddem yn annog y Gweinidog i barhau i drafod â Llywodraeth y DU am ateb ariannu tymor hwy a fydd yn sicrhau gwaith adfer parhaus, yn cynyddu cydnerthedd cymunedol ymhellach, ac yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar safleoedd tomenni glo yng Nghymru.”

 

DIWEDD –

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30