Mae gwasanaeth diogelu’r cyhoedd ym mhob cyngor yn cynnwys iechyd amgylcheddol, safonau masnach, rheoli difwyno, difa plâu, pwysau a mesurau, rheoli adeiladu, cynghori cwsmeriaid, trwyddedu, diogelu bwyd, iechyd a diogelwch ac iechyd anifeiliaid.
Mae pob gwasanaeth o’r fath wedi cytuno i weithredu yn ôl blaenoriaethau Cymru sef diogelu unigolion rhag niwed a hybu gwell iechyd gan ofalu bod cadwyn ein bwyd yn ddiogel ac yn rhagorol i leddfu’r peryglon i iechyd pobl ac anifeiliaid, hybu masnach deg a chyfiawn i ddinasyddion a chwmnïau a gwella’r amgylchedd lleol er ansawdd bywydau a chynaladwyedd.
Mae gwasanaethau diogelu’r cyhoedd ar flaen y gad o ran diogelu pobl rhag sawl clefyd (megis atal Legionela ac e-coli neu ymateb i achosion). Er y bydd heintio ar adegau, mae llawer o waith atal llwyddiannus yn mynd rhagddo bob dydd heb dynnu sylw.
Pan fo achosion o afiechyd ymhlith anifeiliaid – megis clyw’r traed a’r genau’r, ffliw’r adar neu’r gynddaredd hyd yn oed – bydd staff y gwasanaethau rheoleiddio’n cydlynu cynlluniau rheoli argyfwng gan orfodi pawb i gydymffurfio â nhw er diogelwch anifeiliaid a chwmnïau cyfreithlon.
Mae trwyddedau alcohol, diogelwch tacsis a cherbydau llogi preifat (ynghyd â’u gyrwyr), cywirdeb pwysau a mesurau, mannau hapchwarae, ansawdd yr awyr a thir difwynedig yn rhan o gyfrifoldebau lu gwasanaethau diogelu’r cyhoedd, hefyd.
Pan fo angen ymchwilio i achosion o droseddu, staff safonau masnach yr awdurdodau lleol fydd yn gwneud hynny.
Mae benthycwyr arian anghyfreithlon (sy’n codi llog rhwng 500% ac 11,000,000 % ar fenthyciadau) yn achosi pryder, hefyd. Mae uned wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â hynny ledled Cymru er mwyn helpu pobl a chymunedau mae’r troseddau wedi effeithio arnyn nhw trwy weithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i gynnig cynghorion a chymorth ariannol.
Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd yng Nghymru - Adeiladu ar gyfer y Dyfodol
Parhau i Ddiogelu’r Cyhoedd a Chefnogi Busnesau yn yr Argyfwng Costau Byw
Effeithiau a chanlyniadau’r Gwasanaethau Safonau Masnach lleol yng Nghymru 2022/23
Iechyd yr Amgylchedd: Anweledig, Hanfodol a Chost Effeithiol
Gorfodi Adran 34D o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a'r Defnydd o'r Sancsiynau a Ddarperir gan Orchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffosydd (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
Dolenni:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Simon Wilkinson