Ymateb I'r stormydd yn dangos "gwir werth" cynghorau a'r angen i fynd i gyfarch bylchau cyllidebol difrifol

Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2024

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r setliad ariannol i gynghorau ar gyfer 2025-26 ar ddydd Mercher 11 Rhagfyr.

 

Gan ymaros cyhoeddi’r setliad, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid CLlLC:

"Mae cymunedau ledled Cymru wedi cael eu bwrw'n sylweddol yn ddiweddar gan ddinistr stormydd Bert a Darragh. Mae ein meddyliau i gyd gyda'r trigolion a'r busnesau sydd wedi cael eu heffeithio.

"Rydyn ni wedi gweld timau'r cyngor, ochr yn ochr â gweithwyr brys, yn mynd y tu hwnt i ddyletswydd yn ymateb i'r stormydd ffyrnig. O ddelio â'r difrod a'r peryglon uniongyrchol a achosir gan y stormydd, helpu gyda gwacáu, a sefydlu llochesi dros nos, rydym wedi gweld gwerth gwirioneddol ein cynghorau.

"Bob dydd, mae cynghorau wrth galon ein cymunedau. Maent yn darparu gwasanaethau lleol hanfodol sy'n gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl - boed hynny'n cefnogi plant ac oedolion hŷn sy'n agored i niwed, darparu addysg o safon uchel, neu'n mynd i'r afael â digartrefedd. Ond mae nhw'n wynebu bwlch cyllidebol o £560m dros y flwyddyn nesaf yn unig oherwydd costau cynyddol, pwysau cyflog, a'r galw cynyddol ar wasanaethau. Os na chaiff ei drin, byddai'r diffyg hwnnw yn cyfateb i gynnydd o 26% yn Nhreth y Cyngor.

"Trwy CLlLC, mae cynghorau wedi gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r achos dros ariannu ac i sicrhau atebion cynaliadwy.

"Rydyn ni'n gwybod bod y pwysau ar gyllid cyhoeddus yn ddifrifol, ond gyda'r gefnogaeth ariannol gywir sy'n mynd i'r afael â maint y pwysau, gall cynghorau gefnogi trigolion, cymunedau a busnesau, helpu i gyflawni uchelgeisiau cenedlaethol, a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol sy'n gwella bywydau bob dydd."

 

 

DIWEDD –

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30