Cyllideb y DU: CLlLC yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi’r cyllid ychwanegol y DU mewn gwasanaethau lleol

Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2025

Wrth ymateb i Gyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU, dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE: 

 

“Mae Cyllideb heddiw yn dangos cydnabyddiaeth gadarnhaol o bwysigrwydd tegwch a gwasanaethau cyhoeddus cryf. Mae dod â’r cap budd-dal dau blentyn i ben yn gam sylweddol ymlaen a fydd yn helpu miloedd o deuluoedd ac yn mynd i’r afael â thlodi plant. Bydd cynghorau hefyd yn croesawu’r £500 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ochr yn ochr â’r £5 biliwn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi. 

“Mae’r hyblygrwydd cyllidol newydd i Gymru yn ddatblygiad pwysig, gan roi mwy o allu i Lywodraeth Cymru gynllunio a buddsoddi’n gynaliadwy, a fydd o fudd i wasanaethau lleol sydd dan bwysau difrifol. 

“Er bod y setliad llywodraeth leol dros dro, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon, yn darparu rhywfaint o sicrwydd i gyllidebau cynghorau, nid yw’n agos at fynd i’r afael â’r bwlch o £560 miliwn sy’n wynebu gwasanaethau lleol. 

“Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid hwn yn gwella’r setliad dros dro ac yn cefnogi’r gwasanaethau hanfodol y mae ein cymunedau’n dibynnu arnynt.” 

Categorïau: Cyllid ac adnoddau

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30