CLlLC yn galw ar Drysorlys Llywodraeth y DU i egluro fel mater o frys y "£175m o gyllid ychwanegol" ar gyfer teuluoedd Cymru sy’n ei chael hi’n anodd.

Dydd Mercher, 09 Chwefror 2022

CLlLC yn galw ar Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig i egluro fel mater o frys y "£175m o gyllid ychwanegol" ar gyfer teuluoedd Cymru sy’n ei chael hi’n anodd.

Mae CLlLC yn galw ar Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig i egluro fel mater o frys a fydd £175m ychwanegol a addawyd i Gymru yr wythnos diwethaf, oherwydd pecyn cymorth biliau ynni yn Lloegr, yn cael ei wireddu.

Cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak yr wythnos diwethaf y byddai Cymru'n derbyn £175m yn ychwanegol fel rhan o gynllun Ad-dalu'r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod rhywfaint o amheuaeth bellach a yw hyn yn arian ychwanegol.

  

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

"Mae costau byw cynyddol yn gwthio pobl i'r eithaf. Mae miloedd yn gorfod gwneud y dewis llwm rhwng gwresogi a bwyta, dim ond i oroesi.

"Er bod y Canghellor wedi cyhoeddi pecyn cymorth sydd â'r nod o helpu teuluoedd yn Lloegr, mae'n dal yn aneglur a fydd teuluoedd sy'n cael eu taro'n galed yng Nghymru yn cael unrhyw gymorth.

"Mae pobl ledled Cymru yn haeddu, ac yn aros, am sicrwydd. Pam y dylai teuluoedd sy'n gweithio'n galed yng Nghymru gael eu hamddifadu o'r gefnogaeth a addawyd gan Lywodraeth y DU i Loegr?

"Rydym wedi ysgrifennu at Drysorlys y DU yn gofyn am eglurder brys gan ofyn a fydd Cymru mewn gwirionedd yn gweld £175m yn ychwanegol gan fod arwyddion yn awgrymu nawr na fydd unrhyw ganlyniad Barnett oherwydd newidiadau eraill mewn gwariant adrannol yn Lloegr

"Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth unwaith y byddwn yn glir beth, os o gwbl, sydd ar gael."

 

DIWEDD -

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30