Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Dr Chris Llewelyn, wedi rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU ar rôl cynghorau wrth ddarparu cymorth economaidd wedi’i dargedu yn ystod y pandemig.
Cynhaliwyd y modiwl yn Llundain, ac edrychodd ar effaith ariannol y pandemig ar fusnesau a chymunedau. Chwaraeodd cynghorau yng Nghymru ran hanfodol wrth gefnogi busnesau lleol yn ystod y cyfyngiadau symud drwy brosesu grantiau a thaliadau.
Dywedodd Dr Llewelyn fod awdurdodau lleol yn adnabod eu trefi, eu cymunedau a’u busnesau’n dda, sy’n golygu y gallent dargedu cymorth yn gywir. Roedd cyllid gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth prosesau a gynlluniwyd ar y cyd â llywodraeth leol, yn golygu bod cynghorau yn gallu darparu cymorth ariannol i fusnesau yn gyflym.
Tynnodd Dr Llewelyn sylw at ymroddiad gweithlu llywodraeth leol yn eu hymdrechion, a’r “bartneriaeth agos ac ymddiriedus rhwng cynghorau a Llywodraeth Cymru” drwy gydol y pandemig. Nododd fod strwythurau llywodraethu Cymru, gan gynnwys trefniadau’r Cyngor Partneriaeth, yn rhoi fframwaith clir ar gyfer cydweithio a gwneud penderfyniadau.
Dywedodd Dr Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC:
“Yn gyntaf, rydym ni’n cofio’r bobl a’r cymunedau a fu’n byw drwy aflonyddwch ac ansicrwydd y pandemig. Roedd busnesau lleol, teuluoedd a gweithwyr rheng flaen yn wynebu pwysau digynsail, ac mae’r Ymchwiliad yn rhoi cyfle pwysig i ddysgu o’u profiadau a’r penderfyniadau a wnaed ar y pryd.
“Drwy gydol y pandemig, bu awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithio’n gyflym ac yn benderfynol. Roedd eu dealltwriaeth o’u cymunedau, ynghyd â phartneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, yn golygu bod cymorth yn cyrraedd busnesau a thrigolion yn brydlon pan oedd ei angen fwyaf. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ein gweithlu a’r ymddiriedaeth a ddatblygwyd drwy ein trefniadau partneriaeth.
“Wrth i ni edrych yn ôl a darparu ein tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU, rydym ni’n parhau i ganolbwyntio ar yr hyn a ddysgwyd gennym, sut y gallwn wella gwasanaethau cyhoeddus, ac yn anad dim, rydym ni’n cofio pawb a gollodd eu bywydau a’r teuluoedd a fydd bob amser yn byw gyda’r golled honno.”