Ar ddydd Llun, 13 Ionawr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithlu addysg strategol newydd i fynd i’r afael â heriau yn y sector addysg. Bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol i gryfhau a chefnogi'r gweithlu.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, llefarydd CLlLC dros Addysg:
"Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am gynllun gweithlu addysg strategol. Mae'r fenter hon yn cydnabod yr heriau hollbwysig sy'n wynebu ein sector addysg, gan gynnwys materion recriwtio a chadw, pwysau llwyth gwaith, a rôl esblygol athrawon wrth gefnogi anghenion amrywiol myfyrwyr.
"Mae CLlLC yn cydnabod pwysigrwydd yr ymdrech gydweithredol hon ac mae wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, undebau, a chymunedau ysgolion i sicrhau llwyddiant y dull strategol hwn. Edrychwn ymlaen at gyfrannu at ddyfodol lle mae ein haddysgwyr yn cael eu cefnogi'n dda a'u grymuso i ddarparu'r safonau uchaf o addysg i bob dysgwr." Nod y cynllun strategol hwn yw creu gweithlu cynaliadwy â chefnogaeth dda a fydd yn gwella ansawdd addysg yng Nghymru.
DIWEDD –