Lansio statws ysgolion sy’n cefnogi’r Lluoedd Arfog yng Nghymru ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog

Dydd Gwener, 24 Mehefin 2022

Heddiw ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol yn falch o gyhoeddi lansiad 'Ysgolion sy'n cefnogi’r Lluoedd Arfog yng Nghymru', statws sy’n cael ei roi i ysgolion er mwyn cydnabod eu hymrwymiad i gefnogi plant y lluoedd arfog, yn ogystal â'u llwyddiant yn ymgysylltu â chymuned y Lluoedd Arfog.

 

Gall ysgolion weithio tuag at dri dyfarniad, aur, arian ac efydd. Bydd disgwyl i ysgolion yng Nghymru gwblhau'r tri cham isod drwy gydol y broses i gyflawni'r statws;

Plant y lluoedd arfog ac aelod staff allweddol i fod yn Eiriolwr Ysgol i Blant y Lluoedd Arfog
Datblygu dealltwriaeth o blant y Lluoedd Arfog a’u hanghenion drwy gwblhau DPP/E-ddysgu SSCE Cymru
Ymgysylltu gyda SSCE Cymru a Chymuned y Lluoedd Arfog.

Mae chwe ysgol eisoes wedi derbyn statws efydd ar draws gwahanol ranbarthau, a bydd rhagor o ysgolion yn eu dilyn. Ddydd Llun 6 Mehefin, fe aeth y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ar ymweliad â'r ysgol gyntaf i dderbyn y wobr, Ysgol Iau Mount Street yn Aberhonddu. Fe wnaeth y Brigadydd Dawes, Pennaeth Llu’r Fyddin yng Nghymru, ymuno ag o er mwyn cyflwyno tystysgrif efydd i'r ysgol.

 

Pan fydd ysgol yn derbyn statws ysgol sy’n cefnogi’r Lluoedd Arfog, byddant yn derbyn tystysgrif, tlws, a logo digidol i'w defnyddio ar wefan yr ysgol a llofnodion e-bost, i ddathlu eu gwobr ac i ddangos eu hymrwymiad i gymuned y Lluoedd Arfog:

 

Dywedodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan

 

"Mae lansio statws ysgolion sy'n cefnogi’r Lluoedd Arfog yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn fodd arbennig o gydnabod y cydweithio cynyddol rhwng addysg a chymuned y Lluoedd Arfog.

 

“Mae tîm SSCE Cymru yn gweithio'n agos ag ysgolion ledled Cymru er mwyn eu cefnogi i ddeall anghenion plant y lluoedd arfog, dathlu eu profiadau ac ymgysylltu â'r Lluoedd Arfog.

 

"Llongyfarchiadau i'r chwe ysgol ar fod yr ysgolion cyntaf yng Nghymru i ennill eu statws efydd'. Mae'r anrhydedd yn un haeddiannol iawn, ac edrychwn ymlaen at rannu enghreifftiau o'u harferion da gyda llawer mwy o ysgolion yng Nghymru. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ddyfarnu rhagor o ysgolion gyda’r statws."

 

Dywedodd y Brigadydd Andrew Dawes CBE, Pennaeth y Fyddin yng Nghymru: "Ar ran y gymuned filwrol sydd wedi'i lleoli yng Nghymru neu wedi ymgartrefu yng Nghymru, rwyf wrth fy modd bod y cynllun hwn yn cydnabod y gefnogaeth hanfodol y mae ein plant yn eu derbyn yn yr ysgolion gwych sydd gennym ledled Cymru."

 

Hefyd ar ddiwrnod y Lluoedd Arfog mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cynllun Nofio am Ddim ar gyfer y Lluoedd Arfog yn parhau.

 

Mae hyn yn galluogi aelodau presennol o'r Lluoedd Arfog, a'r rhai sydd wedi ymddeol, i nofio am ddim mewn canolfannau hamdden a phyllau nofio sy'n cymryd rhan yn y cynllun, gan ddefnyddio eu Cerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Cafodd y Cynllun Nofio am Ddim ar gyfer y Lluoedd Arfog ei gyflwyno gyntaf yn 2016, ac mae'n rhan o'r ymrwymiad parhaus i sicrhau bod gan y Lluoedd Arfog fynediad at wasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion penodol, ac i gydnabod y ffordd maen nhw wedi gwasanaethu eu gwlad.

Nodyn i olygyddion:

 

• I ganfod rhagor am y wobr ewch i: SSCE Cymru :: Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog

 

• Dim ond i Gyn-filwyr ac aelodau o'r Lluoedd Arfog sy'n byw yng Nghymru y darperir y cynllun nofio am ddim

 

• Er mwyn cael nofio am ddim, ar ymweliad cyntaf bydd yn ofynnol i holl bersonél a Chyn-filwyr cymwys y Lluoedd Arfog gynhyrchu eu Cerdyn Braint Amddiffyn a, lle bo angen, i lenwi ffurflen gais ar gyfer 'cerdyn hamdden' a ddefnyddir yn gyffredin gan y ganolfan hamdden i reoli, monitro a chofnodi'r defnydd o'r cyfleuster.

Postio gan
Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30