Cynghorau yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i leihau beichiau

Dydd Mawrth, 02 Mai 2023

Mae CLlLC heddiw wedi croesawu cynllun gan Llywodraeth Cymru i leihau beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol.

Mewn Datganiad Ysgrifenedig heddiw, amlinellodd y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol ymrwymiadau i dalu llai o grantiau penodol a gwneud gwelliannau i'r system dalu grantiau, ygnhyd a lleihau beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd CLlLC:

“Rydyn ni’n croesawu’n fawr y datganiad gan y Gweinidog heddiw sy’n cryfhau rol llywodraeth leol fel partner ymddiriedig o fewn llywodraethiant Cymru

“Ers tro bellach, mae llywodraeth leol wedi bod yn gwneud yr achos ar gyfer mwy o hyblygrwydd mewn gweinyddu a rheoli grantiau, Bydd cael gwared o fiwrocratiaeth diangen yn helpu i godi pwysau sydd ar gynghorau a fydd, yn ei dro, yn eu helpu i ganolbwyntio ar ddarparu dros gymunedau.”

"Mae cydweithrediad parod y Gweinidog wedi cael ei wir werthfawrogi gennym ni, yn ogystal a’i hymagwedd adeiladol tuag at weithio mewn partneriaeth. Edrychwn ymlaen i barhau’r cydweithio ffrwythlon gyda Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar set newydd o egwyddorion.”

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30