Hyrwyddo amrywiaeth ymysg cynghorwyr

Dydd Gwener, 14 Ionawr 2022

gan Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan

Bydd yr etholiadau lleol eleni ym mis Mai yn gyfle i gymryd camau breision dros amrywiaeth mewn llywodraeth leol, wrth i bob sedd ar draws 22 o gynghorau Cymru gael eu herio. 

Rydym oll yn ymwybodol o’r sefyllfa bresennol yn ein siambrau cyngor, mae’r cynghorwyr yn tueddu bod yn ddynion, yn wyn ac yn hŷn na’r dyn neu’r fenyw cyffredin ar y stryd.  

Dim ond 28 y cant o gynghorwyr Cymru, a chwech arweinydd allan o 22 sy'n fenywod, mae hyn yn cynrychioli canran ddiflas o isel.  

Ymhellach i hyn dim ond 11% o gynghorwyr sy’n anabl, a dim ond 1.8 y cant sy’n dod o gefndiroedd du neu leiafrifoedd ethnig.  

Mae angen i gynghorau edrych yn debycach i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a dylai cymunedau cael eu cynrychioli gan benderfyniadau lleol. Mae ymchwil wedi dangos yn glir nad yw pawb o’r un farn, ac mae’r penderfyniadau gorau'n cael eu gwneud pan fydd ystod o leisiau'n cael eu cynrychioli. 

Felly, dylai unrhyw un sy'n poeni am gynwysoldeb a democratiaeth leol fod yn gweithio’n galed i sicrhau bod rhwystrau'n cael eu goresgyn i sicrhau cynnydd. 

Dyna pam mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi ymgymryd â nifer o gamau ac ymrwymiadau uchelgeisiol a fwriedir i sbarduno newid a hyrwyddo amrywiaeth mewn democratiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys, annog pob plaid wleidyddol i ymrwymo i wella amrywiaeth yn rhagweithiol, cefnogi'r defnydd o gwotâu gwirfoddol, ac annog pob cyngor i ymrwymo i ddatganiad 'Cynghorau Amrywiaeth', i ddangos ymrwymiad cyhoeddus clir. 

Rydym hefyd wedi sefydlu gwefan 'Byddwch yn Gynghorydd', gydag e-ddysgu, cyngor, fideos ac astudiaethau achos, ac mae cynghorau wedi datblygu cynlluniau gweithredu lleol ac yn ymgymryd â gwaith ymgysylltu lleol â phartneriaid. Mae'r rhain yn gamau gweithredol blaengar a fydd, gyda'i gilydd, yn cefnogi arweinwyr gwleidyddol mwy amrywiol. 

Mae'r cynnydd yn dibynnu ar weithredu ar y cyd ac mewn partneriaeth ag eraill, ac mae CLlLC yn gweithio'n agos ag awdurdodau lleol ym Mhrydain, LGA yn Lloegr, Alban (COSLA) a Gogledd Iwerddon (NILGA) i ymgyrchu dros fwy o amrywiaeth mewn democratiaeth. 

Rydym wedi croesawu gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ddileu rhwystrau a gwella mynediad i sefyll i gynghorau.

Cyflwynwyd deddfwriaeth i wneud y ddarpariaeth barhaol ar gyfer cyfarfodydd cyngor o bell, yn dilyn ei mabwysiadu'n llwyddiannus yn ystod y pandemig. Mae Cronfa Mynediad i Swydd Etholedig newydd hefyd wedi'i lansio'n ddiweddar, i gefnogi pobl anabl sy'n sefyll mewn etholiad. 

Mae diwygiadau Llywodraeth Cymru yn golygu bod gan gynghorwyr yng Nghymru hawl i ddarpariaethau absenoldeb teuluol yn gyfartal â gweithwyr cyhoeddus, a thaliadau am gostau cyfrifoldebau gofalu, tra bod rhannu swyddi yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i bobl ymgymryd â swyddi uwch. 

Un o'r prif rwystrau i newid yw'r cynnydd mewn cam-drin a bygwth ffigurau cyhoeddus. Nid yn unig y mae'r duedd hon yn effeithio ar ddiogelwch unigolion a'u teuluoedd, ond mae hefyd yn atal pobl rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, yn enwedig menywod a phobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.   

Mae CLlLC yn gweithio'n agos gyda'r LGA, COSLA a NILGA ar ymgyrch Sifiliaeth mewn Bywyd Cyhoeddus i gefnogi unrhyw gynghorydd a allai fod wedi cael eu cam-drin, ac i sefyll yn erbyn bygythiadau cynghorwyr. 

Mae bod yn gynghorydd ymhell o fod yn rôl hawdd, ond mae'n rhoi boddhad mawr. Gallwch wneud pethau. Gallwch roi llais i'r rhai sydd ddim yn codi eu llais yn aml.  Gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. 

Mae’n fater i bob un ohonom annog pobl o bob cefndir i deimlo y gallent wneud newid yn eu cymunedau drwy sefyll yn yr etholiadau lleol. 


Ewch i wefan 'Byddwch yn Gynghorydd' CLlLC. Ceir mwy o wybodaeth am sifiliaeth ym mywyd cyhoeddus ar wefan yr LGA

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30