Mae sesiwn wybodaeth ar-lein gan y Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru yn digwydd ar ddydd Mawrth 22 Awst am 19:00 i fynd i'r afael â phryderon trigolion ynghylch y defnydd o westy Parc y Strade. Bydd y gwesty yn cael ei ddefnyddio fel gwesty dros dro ar gyfer lletya teuluoedd amddifad sy'n ceisio lloches.
Nod y sesiwn yw rhoi gwybodaeth glir a ffeithiol a rhoi sicrwydd i drigolion am sut y bydd Clearsprings Ready Homes ac asiantaethau lleol yn cefnogi’r teuluoedd a leolir yn y gwesty. Bydd lan i 241 o bobl yn cyrraedd mewn grwpiau bach fel rhan o strategaeth graddol.
Ni fydd unrhyw deuluoedd yn cyrraedd y gwesty cyn i’r sesiwn wybodaeth hon.
Yn y sesiwn, bydd cynrychiolwyr o’r Swyddfa Gartref, eu darparwr llety Clearsprings Ready Homes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed-Powys a Migrant Help atebu chwestiynau a godwyd gan breswylwyr.
Dwedodd cadeirydd y sesiwn, Canon Aled Edwards OBE, cyn Brif Weithredwr Cytûn Eglwysi Ynghyd yng Nghymru:
“Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd gan y gymuned sydd eisiau eglurder ynghylch y defnydd o westy Parc y Strade fel llety i deuluoedd sy’n ceisio lloches. Bydd y sesiwn ar-lein hon yn ceisio rhoi cyfle i’r Swyddfa Gartref a’u darparwr llety, Clearsprings Ready-Homes fynd i’r afael â phryderon, yn ogystal â chlywed sut y bydd gwasanaethau lleol yn ymateb i gefnogi’r gwesteion.
“Rydym am wneud y sesiwn mor addysgiadol â phosibl er mwyn meithrin dealltwriaeth felly mae eich cwestiynau’n bwysig i ni – cysylltwch â ni.”
Dylid anfon cwestiynau ar gyfer aelodau'r panel drwy e-bost i infoevent@wlga.gov.uk erbyn 09:00 ddydd Llun 21 Awst. Bydd themâu cyffredin yn cael eu nodi o'r cwestiynau a gyflwynir a byddai’n gofyn i'r panel i siarad â'r rhain, i wneud y mwyaf o'r amser sydd ar gael. Ni fydd cwestiynau a gyflwynir yn cael eu gofyn yn unigol oherwydd y diddordeb mawr a ragwelir gan y cyhoedd.
Mae’n bwysig nodi mai sesiwn wybodaeth fydd hon ac ni fydd cyfle i wneud sylwadau na gofyn cwestiynau pellach yn ystod y sesiwn. Os dymunwch i'ch cwestiwn gael ei ystyried gan y panel, rhaid i chi ei gyflwyno ymlaen llaw. Ni fydd aelodau'r panel yn gallu rhoi sylwadau ar unrhyw achosion llys sy'n mynd rhagddynt.
Bydd dogfen cwestiwn ac ateb wedi'i diweddaru ar gael yn dilyn y digwyddiad.
Gellir gwrthod ymholiadau os ystyrir eu bod yn ddifenwol, hiliol, yn wamal neu'n sarhaus. Dim ond y cadeirydd ac aelodau'r panel fydd yn weladwy. Bydd camerâu, meicroffonau a swyddogaethau sgwrsio ar gyfer y rhai sy'n ymuno â'r sesiwn yn cael eu hanalluogi.
Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu ymuno â’r sesiwn yn fyw drwy’r ddolen ganlynol:
https://bit.ly/45dNwKM
Bydd recordiad ar gael ar ôl y sesiwn.
DIWEDD –