Roedd cronfa Llywodraeth Cymru o £10 miliwn yn galluogi awdurdodau lleol i ddod i gyswllt â’r holl rai oedd yn cysgu ar y stryd a sicrhau bod ganddynt lety diogel ac addas i fodloni cyfyngiadau’r pandemig. O fewn pythefnos gyntaf y cyfnod clo, roedd awdurdodau lleol wedi rhoi llety i dros 500 o aelwydydd a oedd un ai wedi bod yn cysgu ar y stryd neu mewn llety oedd yn anaddas i gadw pellter cymdeithasol. Mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu i dros 1000 o aelwydydd ers dechrau’r pandemig.
Roedd yn rhaid i awdurdodau lleol aildrefnu timau ac ailbennu staff i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithiol a hefyd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid. Roedd un gell gydlynu ganolog ym mhob cyngor yn dod â phartneriaid fel rhai o’r maes iechyd, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yr heddlu a’r gwasanaeth prawf, sefydliadau’r trydydd sector, ac ati, ynghyd i gynllunio a darparu gwasanaethau ar y cyd.
Mae’r profiadau hyn wedi helpu i siapio a chynllunio darpariaeth gwasanaethau cymorth digartrefedd a thai heddiw ac yn y dyfodol.
Parhau i gefnogi pobl ddigartref yn ystod pandemig y coronafeirws: canllawiau i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU