Posts in Category: COVID-19 (Ynysigrwydd Cymdeithasol - Partneriaeth)

Ffrind Mewn Angen Gorllewin Cymru (CS Gâr, CS Ceredigion, CS Benfro) 

Yn ystod y pandemig cyflwynwyd menter Ffrind mewn Angen Gorllewin Cymru gyda chymorth arian gan Age Cymru. Nod y prosiect oedd gwella'r gallu i wirfoddolwyr ffurfiol ac anffurfiol gysylltu’n ddigidol gyda phobl yng Ngorllewin Cymru, a gostwng arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Sefydlwyd grŵp prosiect rhanbarthol i sefydliadau gydweithio, roedd aelodaeth y grŵp yn cynnwys Age Cymru Dyfed , Cyngor Sir Benfro , Cyngor Sir Ceredigion , Cyngor Sir Gâr, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr  a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Ceredigion Cafodd cyfanswm o 11 grwpiau gwirfoddol a chymunedol gyllid gan y grant gan olygu bod dros 1,100 o unigolion yn elwa o’r fenter gyda 155 o wirfoddolwyr yn treulio 1,975 o oriau yn gweithio yn eu cymunedau.

Cyfathrebu gyda phreswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod COVID-19 (CBS Pen-y-bont ar Ogwr) 

Mae gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth ar gyfer preswylwyr yn ystod y pandemig, gyda diweddariadau dyddiol ar y gefnogaeth o ran Covid-19.

I gyrraedd preswylwyr nad oes ganddynt fynediad i blatfformau digidol, mae’r cyngor wedi dosbarthu pamffledi i’r holl aelwydydd yn y fwrdeistref yn amlygu’r gefnogaeth gan y cyngor yn ystod pandemig Covid 19.  

Roedd hyn yn cynnwys gwneud pobl yn ymwybodol fod cefnogaeth ar gael mewn amryw o wahanol ieithoedd- er enghraifft mae tudalen ‘Cefnogaeth i bobl yn y pandemig’ ar wefan y cyngor yn cynnwys dolenni i adnoddau amlieithog Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd y cyngor 90 o ddiweddariadau newyddion yn ymwneud â'r cyfnod clo yn sgil Covid-19 i gynulleidfaoedd allweddol, ar gyfradd o un y dydd rhwng Mawrth a Gorffennaf ac mae wedi datblygu hyn yn ddiweddariad bob pythefnos i roi gwybod i gynulleidfaoedd allweddol am y datblygiadau diweddaraf yn ystod y pandemig.

Mae’r cyngor yn gweithio’n agos gyda sefydliadau ambarél e.e. Cydlyniant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fforwm Cydraddoldeb a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr i ddosbarthu gwybodaeth i grwpiau penodol.

Maent yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid fel Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Heddlu De Cymru, Cynghorau Tref a Chymuned ayb i ddosbarthu gwybodaeth ac maent yn cefnogi’r partneriaid hyn drwy ddefnyddio sianeli cyfathrebu’r cyngor i rannu’r wybodaeth a gynhyrchwyd.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30