Mae CLlLC wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd darpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm isel trwy wyliau ysgol y Pasg a’r Sulgwyn.
Mae £9m wedi cael ei fuddosddi i helpu cynghorau i gynnig prydau maethlon i ddisgyblion cymwys hyd ddiwedd gwyliau hanner tymor fis Mai, gan gynnwys pob un o wyliau banc yn ystod y cyfnod.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:
“Bydd cymaint o deuluoedd sy’n ei chael hi’n andros o anodd oherwydd costau byw yn buddio o’r estyniad i brydau ysgol am ddim.
“Rwyf yn falch iawn o’r gwaith mae’n cynghorau wedi ei wneud, ac yn parhau i’w wneud, i sicrhau bod y rhai cymwys yn derbyn y gefnogaeth bwysig yma.
“Dyma eisampl arall o’r ffordd y mae’n cymunedau ar eu h’ennill pan fo Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cydweithio’n agos.”
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price (Sir Gaerfyrddin), Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Addysg
“Mae’r cyhoeddiad yma heddiw yn cynnig cymorth i lu o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd ar hyn o bryd.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor allweddol yw bwyd a maeth i ddatblygiad plant a phobl ifanc.
“O ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio blaengar rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bydd cynghorau ledled Cymru yn gallu estyn y gefnogaeth hollbwysig yma i ddisgyblion a theuluoedd cymwys “