Mae Bil arfaethedig i drawsnewid system fysiau Cymru a gyhoeddwyd heddiw wedi cael ei gefnogi gan CLlLC, gyda llywodraeth leol yn rhybuddio y bydd ei gyflwyno yn cymryd amser.
Bydd y Bil Bysiau yn golygu bod cyfrifoldeb am gynllunio'r rhan fwyaf o wasanaethau bysiau cyhoeddus yn cael eu trosglwyddo gan awdurdodau lleol i Drafnidiaeth Cymru (TrC). Bydd yn galluogi TrC i gynllunio a rheoli rhwydweithiau bysiau, gan ganiatáu iddynt gydlynu llwybrau, prisiau a safonau gwasanaeth yn unol ag anghenion y cyhoedd.
Ar hyn o bryd mae cynghorau yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, rheoli seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, a hyrwyddo teithio lleol integredig. Byddant yn parhau i chwarae rôl fawr, gan helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau am y rhwydwaith ar lefel leol ac, trwy Gyd-bwyllgorau Corfforaethol, rhanbarthol.
Mae CLlLC a sefydliad swyddogion trafnidiaeth gyhoeddus y cynghorau (ATCO) wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu'r ddeddfwriaeth yn gynnar ac maent yn ymgysylltu ag Ysgrifenyddion y Cabinet ar gyflwyno masnachfreinio yn rhanbarthol a'r adnoddau sydd eu hangen i'w gyflawni'n llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a llefarydd Trafnidiaeth:
"Mae CLlLC yn croesawu cyflwyno'r Bil Bysiau. Mae masnachfreinio yn rhoi cyfle i ddatblygu rhwydweithiau sy'n diwallu anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach, yn dilyn blynyddoedd o wasanaethau dadreoleiddio lle mae maximeiddio incwm wedi bod yn ystyriaeth ddominyddol.
"Bydd cynghorau'n parhau i chwarae rôl allweddol, gan rannu ein gwybodaeth am anghenion a materion lleol gyda gweithredwyr bysiau a thrafnidiaeth gymunedol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried masnachfreinio fel panacea ar unwaith. Bydd yn cymryd amser i hyn gael ei gyflwyno ledled Cymru a bydd angen iddo gael adnoddau digonol os yw'n mynd i gyflawni'r canlyniadau yr ydym i gyd eisiau eu gweld.
"Mae llawer o bobl a chymunedau yn dibynnu ar wasanaethau bysiau, tra bod gan rai wasanaeth gwael iawn neu ddim gwasanaeth o gwbl ar hyn o bryd. Mae angen i ni anelu at ddiogelu gwasanaethau presennol tra hefyd yn gwella mynediad mewn meysydd eraill. Bydd hynny'n cymryd amser, gwaith partneriaeth da ac arian."