Cytunwyd ar raglen uchelgeisiol o ran Amrywiaeth mewn Democratiaeth gan CLlLC i sicrhau bod siambrau cyngor yn fwy cynrychiadol o’u cymunedau yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022.
Ar ddydd Gwener, ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, cymeradwywyd cyfres o argymhellion nodedig gan weithgor traws-bleidiol, sy’n cynnwys defnyddio cwotau gwirfoddol, targedau lleol, a datganiadau gan gynghorau o fod yn ‘Gynghorau Amrywiol’.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Cyd-Gadeirydd y Gweithgor a Chyd Lefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau, Diwygio Budd-daliadau a Gwrth-Dlodi:
“Rwy’n falch o adroddiad y gweithgor a’r ymrwymiad clir gan Gyngor CLlLC i wneud gwahaniaeth go iawn yn yr etholiadau nesaf. Bu gweithredu yn y gorffennol i ddenu ystod gwahanol o ymgeiswyr, a mwy o fenywod, ond mae’r cynnydd yn dal i fod yn araf gyda’r mwyafrif o aelodau etholedig mewn siambrau cyngor yn parhau i fod yn ddynion gwyn canol oed.
“Mae hyn yn fwy na dim ond sicrhau bod ein siambrau cyngor yn ymddangos ac yn ymddwyn fel y bobl mae nhw’n eu cynrychioli; dengys yr ymchwil i gyd fod penderfyniadau sy’n cael eu cymryd gan bobl ag ystod eang o brofiadau bywyd amrywiol yn arwain at ddeilliannau gwell. Rydyn ni i gyd yn gytûn bod angen i ni wneud llawer mwy a mynd ymhellach os ydyn ni am weld newid go iawn.”
Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Cyd Lefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau, Diwygio Budd-daliadau a Gwrth-Dlodi:
“Tra fod etholiadau’r Senedd ymhen deufis yn hawlio’r sylw ar hyn o bryd, rydyn ni’n edrych tuag at yr etholiadau lleol nesaf yn 2022 a’r hyn sydd yn rhaid i ni ei wneud i sicrhau newid.
“Mae gennym ni lawer o waith i’w wneud dros y 14 mis nesaf a byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i ymgysylltu ac i annog pobl o grwpiau tan-gynrychioledig i ystyried sefyll mewn etholiad. Rydyn ni hefyd angen cefnogi ymgeiswyr trwy’r hyn sydd yn aml yn gallu bod yn broses frawychus a chymhleth. Rydyn ni felly yn galw ar yr holl bleidiau gwleidyddol i wneud mwy i sicrhau fod eu prosesau dethol mor hyblyg â phosib.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llywydd CLlLC:
“Mae’r ymrwymiadau a wnaed gan Gyngor CLlLC ynghylch amrywiaeth mewn democratiaeth yn mynd i galon gwerthoedd CLlLC. Dyw ein siambrau cyngor na chwaith Gyngor y CLlLC ei hun ddim mor amrywiol neu mor gynrychiadol a’n cymunedau fel y gallant a dylien nhw fod. Mae ffordd hir gennym ni i’w theithio o hyd, ond dylai’r ymrwymiadau yr ydyn ni wedi eu gwneud a’r gweithredoedd yr ydyn ni’n galw ar gynghorau, pleidiau a phartneriaid i’w hymgymeryd helpu i sicrhau bod ein cynghorau yn fwy amrywiol yn 2022.”
Yn y cyfarfod ddydd Gwener (5 Mawrth), cytunodd Cyngor CLlLC:
- I annog yr holl bleidiau gwleidyddol, trwy Grwpiau Gwleidyddol CLlLC, i ymrwymo i weithgareddau rhagweithiol wedi’i cydlynu i wella amrywiaeth o fewn democratiaeth llywodraeth leol;
- safbwynt ffurfiol yn galw am gyflwynu grantiau ailsefydlu i’r holl gynghorwyr a deiliaid cyflog uwch;
- i annog cynghorwyr i hawlio unrhyw lwfansau neu gostau angenrheidiol;
- i annog datganiad gan gynghorau yng Nghymru erbyn Gorffennaf 2021, ar ddod yn ‘Gynghorau Amrywiol’; i:
- Ddarparu ymrwymiad cyhoeddus, clir i wella amrywiaeth;
- Arddangos diwylliant agored a chroesawus i bawb;
- Ystyried aildrefnu amseroedd cyfarfodydd cyngor a chytuno ar gyfnodau toriad i gefnogi cynghorwyr gydag ymrwymiadau eraill; ac
- I amlinellu cynllun gweithredu erbyn etholiadau lleol 2022.
- Y dylai cynghorau osod targedau i fod yn gynrychiadol o’r cymunedau y mae nhw’n eu gwasanaethu erbyn yr etholiadau nesaf;
- I gefnogi’r defnydd o gwotâu gwirfoddol ar gyfer yr etholiadau lleol nesaf, ac
- I’r GLlLC adolygu’r defnydd o gwotâu gwirfoddol yn dilyn yr etholiadau lleol nesaf.
Mae CLlLC eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar hybu a chefnogi mwy o amrywiaeth, gan gynnwys y wefan Byddwch yn Gynghorydd, rhaglen fentora, ymrwymiad i gefnogi’r ymgyrch Gwareiddra mewn Bywyd Cyhoeddus a phecyn eang o hyfforddiant, datblygu a chefnogaeth i gynghorwydd newydd etholedig. Lanswyd Cronfa Mynediad at Sefyll Mewn Etholiad gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar hefyd, i gefnogi pobl anabl i sefyll am rolau etholedig.
Gellir cyrchu’r adroddiad am Amrywiaeth mewn Democratiaeth Leol gan Gyngor CLlLC yma.
-DIWEDD-