Mae CLlLC wedi ysgrifennu i’r Canghellor yn gofyn am eglurder ar pa wasanaethau cyngor fydd yn cymhwyso am gefnogaeth I’w biliau ynni wedi Mawrth 2023.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC:
“Tra’r ydyn ni yn croesawu cynnwys sefydliadau sector gyhoeddus yn y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar, rydyn ni angen sicrwydd y bydd holl wasanaethau ein cynghorau yn gymwys am gymorth o dan delerau’r cynllun.
“Yn ychwanegol i wasanaethau rheng flaen fel ysgolion a safleoedd gofal cymdeithasol, mae asedau cymunedol gwerthfawr megis goleuo strydoedd, llyfrgelloedd, pyllau nofio a chanolfannau hamdden hefyd yn cyfrannu’n aruthrol I lesiant ein cymunedau. Ond mae costau ynni cynyddol sy’n anghynaladwy yn eu gosod nhw mewn perygl difrifol.
“O ganlyniad I fesurau effeithlonrwydd sydd wedi eu cymryd eisoes gan gynghorau, nid ydym ni mewn safle i allu lleihau costau ynni ymhellach. Er lles ein trigolion a’n cymunedau, mae’n hollbwysig bod yr anghenion ynni sylfaenol yma yn cael eu diwallu er mwyn sicrhau hyfywedd ein gwasanaethau.”
-DIWEDD-